Sgroliwch i lawr i weld y ffurflenni cystadlu
Yn dilyn cystadlaethau llwyddiannus yn y gorffennol, hoffai’r Cyngor Sir annog cymaint ag sy’n bosib o bentrefi/trefi ac Ystadau Tai Cymdeithasol Pobl Hŷn i gystadlu eleni. Y gobaith ydy derbyn o leiaf un cais gan bob cymuned. Os nad ydy eich Cyngor yn dymuno cymryd rhan, gofynnwn yn garedig ichi fynd ati i annog grŵp gwirfoddol neu glwb ieuenctid yn eich ardal i gymryd rhan. Mewn nifer o gymunedau yn y Sir, mae cynghorau tref neu gymuned wedi cynnig cymorth ariannol i grwpiau i dalu am lwyni a phlanhigion.
Er mwyn mynd i’r afael â’r cyfyngiadau yn ymwneud â mynediad, gofynnwn i gystadleuwyr beidio â chynnwys mannau neu nodweddion ar dir ysgol fel rhan o’u cais eleni. Fodd bynnag, byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Sut caiff pobl ifanc eu hannog i fod yn rhan o waith cynnal a chadw’r gymuned
- Sut mae prosiectau mewn ysgolion yn cyfrannu tuag at yr amgylchedd lleol a bioamrywiaeth
Gan barhau i gydymffurfio gydag ein thema cynaladwyedd, hoffem sicrhau bod y gystadleuaeth yn parhau i wella ein hamgylchedd naturiol. Byddem yn annog y rheiny sy’n cymryd rhan yn arbennig i gynorthwyo elfennau hanfodol ein bioamrywiaeth drwy blannu planhigion peillio sy’n dda i wenyn a phryfetach eraill a thrwy osod blychau pryfetach a nythod adar. Wrth ystyried ceisiadau, bydd y beirniaid yn cynnig marciau am ymddangosiad cyffredinol a thystiolaeth o ddefnyddio compost di-fawn, ynghyd â phlanhigion sy’n cynorthwyo pryfetach peillio ac sydd o fudd i fathau eraill o fywyd gwyllt.
Mae’r Gystadleuaeth Cymunedau Taclusaf yn meithrin ac yn arddangos balchder yn eich ardal ac yn amlygu’r cysylltiadau cadarnhaol rhwng ymwneud â’r gymuned a hwb i’ch lles. Eleni, hoffem glywed mwy am bwy sydd ynghlwm â chreu a chynnal a chadw ein cymunedau, pa weithgareddau maen nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw a’r cyfanswm amser maen nhw’n ei ymroi i gynnal a chadw’r mannau, nodweddion ac adeiladau gaiff eu beirniadu.
Mae yna bum prif gategori yn y gystadleuaeth:
A. Pentref Taclusaf â phoblogaeth o hyd at 1000
B. Bentref Taclusaf â phoblogaeth o dros 1000
C. Y Dref Taclusaf
Ch. Yr Ystâd Dai Cymdeithasol i Bobl Hŷn Taclusaf
Mae croeso i’r rheiny sy’n cystadlu yng nghategorïau A i Ch hefyd gystadlu yn y categorïau canlynol:
A. Ardal Gymunedol Taclusaf (e.e. parc, cae, rhandir, ardal bywyd gwyllt, mynwent, iard eglwys)
Dd. Adeilad Cymunedol Taclusaf
B. Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Anfonwch e-bost at mel.salisbury@flvc.org.uk i ofyn am ffurflen gystadlu (ffurflenni cystadlu) Cymraeg ar gyfer y categori/categorïau yr hoffech chi gystadlu ynddyn nhw
Amserlen y Gystadleuaeth
Lansiad y Gystadleuaeth | Dydd Gwener, Chwefror y 14eg 2020 |
Dyddiad cau ar gyfer cystadlu | 2yp ddydd Gwener, Mehefin y 12fed 2020 |
Ymweliadau’r Beirniaid | Yr wythnos sy’n dechrau ar Orffennaf y 27ain 2020 |
Digwyddiad Gwobrwyo | Medi/Hydref 2020 |