• Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
  • English
  • Cymraeg

Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Flint

  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Ein Staff
    • Ein Hymddiriedolwyr
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Swyddi
    • Aelodaeth
    • Corlan
  • Calendr
  • Llais Gwirfoddol
  • Cefnogi Trydydd Sector Cymru
    • Ymgysylltu a Dylanwadu
      • Cydweithio
        • Partneriaethau Lleol Allweddol
        • Partneriaethau Rhanbarthol Allweddol
        • Hybu Partneriaethau a Chydweithio
      • Llesiant
        • Tîm Lles Gogledd Ddwyrain Cymru
        • Rhwydwaith Lles Gogledd Ddwyrain Cymru
          • Un Pwynt Mynediad / Rhagnodi Cymdeithasol
          • Archif E-fwletin Lles
        • Partneriaethau, Fforymau a Rhwydweithiau
        • Dolenni Llesiant Defnyddiol
    • Llywodraethu Da
      • Gwasanaethau
        • Dogfennau Defnyddiol
          • Esiamplau o Bolisïau
          • Dogfennau Llywodraethol
        • Gwasanaethau Gwybodaeth
          • Adnoddau Hanfodol
        • Arian
    • Cyllid Cynaliadwy
      • Cyllid
    • Gwirfoddoli
      • Canolfan Gwirfoddoli
      • Gwirfoddoli
      • Cyfleoedd Gwirfoddoli
      • Gwirfoddolwyr
    • Arolwg Effaith
  • Ardal Ddysgu
  • Cysylltu
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Flint > Ymgysylltu a Dylanwadu > Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant > Partneriaethau, Fforymau a Rhwydweithiau

Partneriaethau, Fforymau a Rhwydweithiau

Mae FLVC, AVOW a chynrychiolwyr eraill o’r trydydd sector yn cynrychioli’r sector gwirfoddol mewn nifer o bartneriaethau, fforymau a rhwydweithiau amlasiantaeth, mewn amrywiaeth o feysydd gwasanaeth.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Diben Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd trwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus statudol a fydd yn disodli’r Byrddau Gwasanaethau Lleol gwirfoddol ym mhob ardal awdurdod lleol. Bydd pob bwrdd yn:

  • asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal
  • gosod amcanion sydd wedi’u llunio i sicrhau bod y Byrddau’n gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i’r nodau llesiant.

Mae’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi ei amcanion a’r camau y bydd yn eu cymryd i’w diwallu. Caiff ei alw’n Gynllun Llesiant Lleol. Mae’n rhaid iddo nodi:

  • pam y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo y bydd ei amcanion yn gwneud cyfraniad yn yr ardal leol i gyflawni’r nodau llesiant
  • sut y mae wedi ystyried yr asesiad Llesiant Lleol wrth osod ei amcanion a’r camau i’w cymryd.

Bydd pob Bwrdd yn adolygu’i gynllun yn flynyddol gan ddangos ei gynnydd. Mae’n rhaid i’r Byrddau ymgynghori’n eang wrth lunio’u hasesiadau o lesiant lleol a’r cynllun Llesiant Lleol.

  • BGC Sir y Fflint (cynyrchiolydd trydydd sector: Ann Woods, FLVC)
  • BGC Wrecsam (cynyrchiolydd trydydd sector: John Gallanders, AVOW)

Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru

Mae Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynnu bod pob rhanbarth yng Nghymru’n sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i oruchwylio Partneriaethau ac Integreiddio Gwasanaethau. Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Ebrill 2016 gan gyfarfod ar ffurf gysgodol nes i’r Bwrdd ddod yn gwbl weithredol ym Medi 2016.

Mae’r Bwrdd ar hyn o bryd yn cyfarfod bob mis, ac mae’r aelodaeth yn cynnwys Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd, cynrychiolwyr Trydydd Sector, cynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, yn ogystal ag aelodau cyfetholedig o Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru.

Pwrpas y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yw gwella canlyniadau a lles pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau.

  • Cynyrchiolydd trydydd sector:
    • David Worrall, Y Groes Goch Brydeinig
    • Lynda Colwell, Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych
    • Wendy Jones, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC)
    • Dirprwy: Roma Hooper, Gweithredu dros Blant
  • Cynyrchiolydd derbynwyr gwasanaeth: swydd wag
  • Cynyrchiolydd gofalwyr:
    • Jennie Lewis
    • Peter Williams

Diogelu

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cyflwyno dull cryf, cadarn ac effeithiol o weithredu diogelu drwy bartneriaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i weithio gyda’r byrddau diogelu oedolion a byrddau diogelu plant ledled Cymru.
Dyletswyddau’r Bwrdd fydd:

  • cefnogi a chynghori’r Byrddau Diogelu, gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn effeithiol
  • adrodd ynghylch pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru
  • gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch ffyrdd o wella’r trefniadau hynny.

I wybod mwy am Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru ewch i’w gwefan. Mae gwybodaeth am y Bwrdd ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau, adolygiadau ymarfer a manylion am ddigwyddiadau a hyfforddiant yno.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Corff Gwarchod y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru (CICGC)

Corff gwarchod gwasanaethau iechyd cymunedol annibynnol yw Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) sy’n cynrychioli llais y cleifion a’r cyhoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd yn ein hardal.  Mae CICGC hefyd yn chwarae rhan hanfodol i ddylanwadu ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd yn cael eu cynllunio a’u darparu yn ein hardal er sicrhau’r canlyniadau iechyd a lles gorau posib i bobl gogledd Cymru.  Mae cryfder CICGC yn ei statws statudol ac yn ei allu i gynrychioli buddiannau’r cleifion a’r cyhoedd heb unrhyw fuddiannau breintiedig.  Dyma yw’r ddolen rhwng y rhai sy’n cynllunio ac yn darparu’r gwasanaethau a’r rhai sy’n eu defnyddio.

Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (SRG)

Mae’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (SRG) yn gweithredu fel grŵp cynghori i’r Bwrdd Iechyd, gan ddarparu cyngor annibynnol ar unrhyw agwedd ar fusnes y Bwrdd Iechyd. Gall hyn gynnwys:

  • Ymgysylltiad cynnar a chyfranogiad wrth benderfynu ar gyfeiriad strategol cyffredinol y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Cyngor ar gynigion gwasanaeth penodol cyn ymgynghoriad ffurfiol
  • Adborth ar effaith gweithrediadau’r Bwrdd Iechyd ar y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu

Pwyllgorau’r Bwrdd Iechyd a Grwpiau Cynghori

  • Pwyllgor Archwilio
  • Pwyllgor Cronfeydd Elusennol
  • Grŵp Cynghori Cronfeydd Elusennol
  • Pwyllgor Digidol a Llywodraethu Gwybodaeth
  • Pwyllgor Deddf Iechyd Meddwl
  • Is-bwyllgor Pŵer Rhyddhau
  • Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad
  • Pwyllgor Strategaeth, Partneriaethau ac Iechyd Poblogaeth
  • Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad
  • Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth
  • Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HPF)
  • Fforwm Partneriaeth Leol (LPF)

E-fwletin FLVC

Rhwydwaith Lles

Un Pwynt Mynediad

Infoengine

Infoengine

Cyfeirlyfr Dewis

Cyfeirlyfr Dewis

Follow us on Twitter

Retweet on TwitterFlintshire Local Voluntary Council Retweeted
22h

We've just updated our COVID-19 page with the latest news for Wales' voluntary sector.

https://wcva.cymru/coronavirus-statement/

Reply on Twitter 1352648467764670468Retweet on Twitter 13526484677646704687Like on Twitter 13526484677646704684Twitter 1352648467764670468
22h

We concur! 👏
"Community-based organisations played a key role in role in identifying, linking and mobilising these assets. Community-led responses were often swifter, more inclusive, more ... human-centred and more holistic than the responses of national and local government."

Reply on Twitter 1352655836452155396Retweet on Twitter 13526558364521553961Like on Twitter 13526558364521553962Twitter 1352655836452155396
24h

This week's e-bulletin: http://bit.ly/3qI24NR

𝗜𝗻𝗳𝗼𝗿𝗺𝗮𝘁𝗶𝗼𝗻 𝗳𝗼𝗿 #𝗙𝗹𝗶𝗻𝘁𝘀𝗵𝗶𝗿𝗲’𝘀 𝘁𝗵𝗶𝗿𝗱 𝘀𝗲𝗰𝘁𝗼𝗿 ... from @flvcvolcentre @WelshGovernment @flvcceo @CarersWales @WCVACymru @DC_Wales @cic_nw @newpathways_ @ChtyCommission @Flintshirecab @NEWCISCC...

Reply on Twitter 1352627657725378565Retweet on Twitter 13526276577253785651Like on Twitter 1352627657725378565Twitter 1352627657725378565
Load More...

Legal

  • Polisi Cwcis
  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwynion
  • Telerau ac Amodau
  • Map Wefan
Third Sector Support Wales
WCVA

Ebost: info@flvc.org.uk
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
Uned 3, Parc Busness yr Wyddgrug,
Ffordd Wrecsam
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
CH7 1XP
Gogledd Cymru
Tel: 01352 744000

FLVC © 2021 Company Limited by Guarantee: Number 3301204 | Registered Charity Number: 1062644

We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.OkRead more