Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB)
Rôl yr PSB yw cydlynu a chychwyn gwaith partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er budd pobl a chymunedau Sir y Fflint. Mae’r PSB yn cynnwys swyddogion uwch o’r holl sectorau hynny a chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru. Mae’r PSB yn gyfrifol am gynhyrchu ac adolygu Cynllun Lles Sir y Fflint. Mae Prif Swyddog FLVC yn eistedd ar y PSB ac yn gweithredu fel y prif gyswllt.
Compact y Sector Gwirfoddol
Mae’r Compact yn bartneriaeth dair ffordd rhwng yr Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd a’r Sector Gwirfoddol. Nod y Compact yw sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yn deall rôl y sector gwirfoddol yn glir a’u bod yn manteisio ar unrhyw gyfle i weithio mewn partneriaeth. Mae’r Compact hefyd yn goruchwylio gweithrediad y Cod Cyllido sydd wedi’i greu i wneud yn siŵr bod grwpiau gwirfoddol yn cael eu trin yn deg gan arianwyr cyhoeddus.
Mae’n fforwm i aelodau allu trafod problemau a rhannu gwybodaeth sydd o ddiddordeb i bawb. Mae’r Prif Swyddog a Chadeirydd FLVC yn aelodau o’r Compact gyda phobl eraill o’r sector gwirfoddol ac maent yn cyfarfod gyda’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor Sir a rheolwr uwch o’r Bwrdd Iechyd. Prif Swyddog yr FLVC yw’r prif gyswllt.
Fforymau a Rhwydweithiau FLVC
Mae FLVC yn gwasanaethu ac yn galw cyfarfodydd ar gyfer nifer o fforymau a rhwydweithiau sy’n rhoi cyfle i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol rannu eu profiadau, eu syniadau a’u pryderon a bwydo i mewn i ymgynghoriadau a phrosesau cynllunio gwasanaethau.
Gall cynrychiolwyr y sector gwirfoddol sy’n eistedd ar grwpiau cynllunio a phartneriaethau fwydo yn ôl i’r sector ehangach a gwrando ar eu sylwadau.
Rhwydwaith Lles
Mae’r rhwydwaith yma’n cynnwys yr holl grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gweithgareddau sydd yn bennaf i oedolion. Mae FLVC yn dosbarthu gwybodaeth drwy e-grŵp bob dydd, yn cynhyrchu taflen newyddion ac yn galw cyfarfodydd y Rhwydwaith Pontydd tua phedair gwaith y flwyddyn.
Y Rheolwr Lles yw’r prif gyswllt ar gyfer y maes yma o waith.
Rhwydwaith Rheolwyr Gwirfoddol
Mae’r fforwm yma’n canolbwyntio’n bennaf ar gefnogaeth gydfuddiannol a hybu arfer da. Mae’n rhoi cyfle i’r bobl sy’n gyfrifol am benodi a rheoli gwirfoddolwyr ddod at ei gilydd a rhannu eu profiadau, syniadau a phroblemau. Mae modd canfod beth yw’r anghenion dysgu a chymorth a’r tueddiadau newydd mewn gwirfoddoli. Ceir adborth o gyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol ac mae modd canfod beth yw’r pryderon, syniadau ac arferion da yn lleol a’u codi mewn fforymau eraill.
Rheolwr y Ganolfan Gwirfoddolwyr yw’r cyswllt allweddol ar gyfer y maes yma o waith.