Wellbeing Network

Rhwydwaith Lles

Untitled design (1)
FLVC WELLBEING NETWORK LOGO

Mwy am y rhwydwaith, a’r buddion ynghlwm ag ymuno – mae’n rhad ac am ddim!

Mae Rhwydwaith Lles Gogledd Ddwyrain Cymru yn dwyn mudiadau trydydd sector (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) ynghyd, sy’n gweithio yn Sir y Fflint a Wrecsam ac sy’n ymddiddori yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Gallai partneriaid statudol ymaelodi â’r Rhwydwaith a gallwch ymuno’n rhad ac am ddim.

Os hoffech chi gyflwyno eich gwasanaeth neu’ch prosiect yn y digwyddiad rhwydweithio, cysylltwch gyda ni [email protected]

 

Dyma nodau’r rhwydwaith:

• Dwyn mudiadau trydydd sector ynghyd i gyflwyno llais ar y cyd
• Ysgogi, ysbrydoli, ymwneud a meithrin ymddiriedaeth ymysg mudiadau trydydd sector
• Rhannu gwybodaeth a syniadau arfer da gyda mudiadau trydydd sector eraill
• Dylanwadu ar ddatblygu gweithgareddau a gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
• Sicrhau bod y trydydd sector yn bartner cydradd ynghlwm â’r gwaith cyflwyno gweithgareddau a gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant cyfannol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Dyma’r buddion i aelodau’r rhwydwaith:

• Caiff aelodau’r rhwydwaith eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd bob deufis i drafod materion cyfredol a pherthnasol a datblygu camau gweithredu i fynd i’r afael â blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol; a chyfle i rwydweithio gyda mudiadau trydydd sector eraill a’r sector statudol
• Cyfleoedd i hyrwyddo eu gwasanaethau a’u gweithgareddau i’r Rhwydwaith a’u defnyddwyr gwasanaeth
• Cyfle i fod ynghlwm ag ymatebion ymgynghori sy’n ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.

Mae Rhwydwaith Lles Gogledd Ddwyrain Cymru wedi’i gynnal gan Dîm Llesiant Gogledd Ddwyrain Cymru yn FLVC ac AVOW.