Bydd angen i chi weithio gyda sefydliadau eraill beth bynnag y dewiswch ei wneud – datblygu gwasanaethau newydd neu ehangu gwasanaethau sy’n bodoli’n barod, tynnu sylw at anghenion penodol neu ddylanwadu ar brosesau cynllunio a darparu gwasanaethau. Trwy weithio mewn partneriaeth, gallwch rannu syniadau ac arbenigedd a gwneud yn siŵr bod eich gwasanaethau a’ch gweithgareddau’n cyfateb yn dda.
Felly, os bydd angen i’ch sefydliad weithio gyda phartneriaid sector cyhoeddus a gwirfoddol eraill, bydd yr adran hon o’r wefan yn ddefnyddiol i chi. Yn enwedig os yw eich sefydliad yn cefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl gydag anableddau neu bobl gyda phroblemau iechyd meddwl neu unrhyw grŵp sy’n agored i niwed, sy’n rheoli gwirfoddolwyr neu sy’n rhedeg cyfleuster cymunedol, gall FLVC helpu mewn nifer o wahanol ffyrdd:
- Canfod y bobl orau i chi siarad â nhw os ydych eisiau rhannu eich profiad, eich syniadau a’ch pryderon a dylanwadu ar gynllunio gwasanaethau lleol.
- Darparu gwybodaeth drwy ein fforymau, taflenni newyddion, e-grwpiau a rhwydweithiau am waith partneriaethau lleol.
- Dosbarthu gwybodaeth am y polisïau a’r strategaethau diweddaraf sy’n dod o lefel genedlaethol a rhanbarthol.
- Penodi a chefnogi ‘cynrychiolwyr’ o’r sector gwirfoddol ar amrywiaeth o bartneriaethau lleol a rhanbarthol.
- Cynrychioli buddiannau’r sector gwirfoddol drwy eistedd ar fyrddau partneriaeth a grwpiau cynllunio a chodi materion a chyflwyno cynigion ar ran y sector.
- Trefnu digwyddiadau ymgynghori a chyflwyno sylwadau’r sector i gyrff cyhoeddus.
- Hybu a darparu hyfforddiant i ymddiriedolwyr, y staff a’r gwirfoddolwyr.
- Rhoi cyngor am sefydlu prosiectau a gwasanaethau newydd
- Eich cysylltu â gwasanaethau FLVC eraill
- Datblygu consortia i ddarparu gwasanaethau.