Ein Gwobrau Gwirfoddolwyr 2026

CGLlSFf – Cwrdd â Chyllidwr: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Cyfarfod Rhwydwaith Babanod, Plant a Phobl Ifanc

Cwrdd â’r Cyllidwr: Sefydliad Cymunedol Cymru – Cronfeydd Sir y Fflint

Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf: Sut i ysgrifennu a datblygu ceisiadau am gyllid grant eithriadol

Hyfforddiant diogelu (grŵp C) AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf

Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf: Cyflwyniad i Siarad Cyhoeddus

Cyfarfod Rhwydwaith Babanod, Plant a Phobl Ifanc

Wythnos Elusennau Cymru 2026

Cynhadledd Trydydd Sector CGLlSFf

Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2026

Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2026

Cwrdd â’r Cyllidwr – Cist Gymunedol Sir y Fflint

Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf: Cyflwyniad i Reoli Gwirfoddolwyr

Dathliad Rhwydweithio Nadolig Trydydd Sector Gogledd Cymru

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025 – Hyfforddiant AM DDIM

Ein 28ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 

Sesiwn Hyfforddiant – Cymorth Costau Byw ar gyfer Adeiladau Cymunedol

Ffair Ariannu CGLlSFf

Cwrdd â’r Cyllidwr CGLlSFf – Sesiwn ar-lein – easyfundraising

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Gwobrwyau Gwirfoddolwyr Ifanc

Cyfarfod Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr CGLlSFf

CGLlSFf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam

Gwobrau Elusennau Cymru 2024

Gwobrau Gwirfoddolwyr Ifanc CGLISFf 2024

Meet The Funder – Community Foundation Wales

Ar ddydd Gwener, Mehefin 5 2026 cynhaliodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint dathliad Gwobrau Gwirfoddolwyr yn Ganolfan Gymunedol Pentre’ Cythrel.

Wedi ei gynnal yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, roedd y digwyddiad yn dathlu cyflawniadau a chyfraniadau anhygoel gwirfoddolwyr Sir y Fflint.

Roedd y noson yn ddathliad wirioneddol ysbrydoledig o’r unigolion anhygoel sydd yn rhoi eu hamser, eu sgiliau a’u cydymdeimlad i wneud gwahaniaeth i gymunedau Sir y Fflint.

Yn ystod y noson, roeddem yn cydnabod cyflawniadau rhagorol, ymroddiad a charedigrwydd, wrth rannu straeon a wnaeth bwysleisio effaith anhygoel gwirfoddolwyr ar fywydau eraill.

Derbyniodd pob enwebai dystysgrif a bathodyn i gydnabod eu gwaith called.

Roedd y noson yn llawn diolchgarwch, llawenydd a chwerthin!

Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i’r digwyddiad a hoffem hefyd estyn llongyfarchiadau enfawr i’r holl enillwyr ac enwebai – rydych chi’n ysbrydoliaeth llwyr.

Ydych chi’n chwilio am arian ar gyfer gweithgaredd cymunedol?

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am Grant Cymunedol y Loteri Genedlaethol?

Mae eu rhaglenni grant yn cynnwys:

  • Arian i Bawb – rhaglen grantiau bach syml sy’n cynnig grantiau rhwng £300 a £20,000.
  • Pawb a’i Le – Grantiau Canolig a Mawr – Nod i ddod â phobl at ei gilydd i wneud cymunedau’n gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig neu ddinasol.

Hoffech chi’r cyfle i drafod eich syniadau gyda Swyddog y Loteri cyn i chi wneud cais?

Dyma eich cyfle. Mae CGLlSFf yn cynnal Cymhorthfa gyda Swyddog Loteri yn Ganolfan Chwaraeon Cambrian Aquatic ar ddydd Mercher, Gorffennaf 8 2026.

Mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau ar gael i drafod ceisiadau posib.

Archebwch eich lle yma

Manylion lleoliad: Canolfan Chwaraeon Cambrian Aquatic, Lôn Wepre, Cei Connah CH5 4HA.

Cyfarfod Rhwydwaith Babanod, Plant a Phobl Ifanc

Mae ein cyfarfod Rhwydwaith Babanod, Plant a Phobl Ifanc nesaf yn digwydd ar ddydd Llun, Mehefin 8, rhwng 10:30 YB i 12:30 YP.

Lleoliad: Wings Club Broughton, Ffordd Caer, Brychdyn, Caer, CH4 0DR

Mae’r cyfarfod yn gyfle i rwydweithio gyda gwasanaethau trydydd sector, awdurdod lleol a gwasanaethau iechyd eraill sy’n cefnogi babanod, plant a theuluoedd ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd y cyfarfod yn cael ei hwyluso mewn partneriaeth gyda AVOW.

Archebwch eich lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/avow-flvc-babies-children-and-young-people-network-tickets-1987824839606

Ydych chi’n ystyried gwneud cais i Gronfeydd Sefydliad Cymunedol Cymru Sir y Fflint?

Hoffech chi’r cyfle i drafod eich syniadau cyn gwneud cais?

Mae CGLlSFf yn cynnal sesiwn ar-lein gyda Sefydliad Cymunedol Cymru ar ddydd Mercher, 6 Mai 2026 am 12:30 yp.

Archebwch eich lle yma

Am wybodaeth am y gronfa, gweler isod!

 

Sefydliad Cymunedol Cymru – Cronfeydd Sir y Fflint – Grantiau i Grwpiau

Mae dwy gronfa Sir y Fflint y Sefydliad, Cronfa Gwaddol Cymunedol Sir y Fflint a Chronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru Sir y Fflint wedi ailagor ar gyfer ceisiadau gan grwpiau:

Mae Cronfa Gwaddol Cymunedol Sir y Fflint yn cefnogi:

  • Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol i blant a phobl ifanc oed ysgol
  • Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol i blant yn y blynyddoedd cynnar
  • Prosiectau mewn ysgolion sy’n annog byw yn iach

Mae Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru Sir y Fflint yn cefnogi:

  • Prosiectau sy’n cyfrannu at adnewyddu a chynnal a chadw eglwysi, capeli a neuaddau cymunedol/pentref yn y sir.
  • Prosiectau sy’n gweithio ar fynd i’r afael ag anfanteision er mwyn bod o fudd i drigolion Sir y Fflint.
  • Prosiectau sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i drigolion Sir y Fflint.

Gall eglwysi a sefydliadau sy’n gweithio gyda thrigolion ardal Awdurdod Lleol Sir y Fflint wneud cais am grantiau hyd at £2,000 ar gyfer prosiect blwyddyn o hyd neu gyllid cyfalaf bach; neu gyllid aml-flwyddyn o hyd at 3 blynedd o gyllid craidd.

Caiff blaenoriaeth ei rhoi i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy hanner dydd, dydd Llun Mehefin 15fed, 2026.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf: Sut i ysgrifennu a datblygu ceisiadau am gyllid grant eithriadol

Cyflwynir y sesiwn foreol hon gan Stephen Wright o Grant Funding Skills, sydd â bron i 30 mlynedd o brofiad o roi cyngor ariannu ac ysgrifennu ceisiadau llwyddiannusgan gynnwys 12 mlynedd mewn awdurdod lleol. Mae Stephen yn uchel ei barch yn y maes hwn ac mae ganddo record ragorol o helpu grwpiau lleol i sicrhau cyllidyn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae wedi sicrhau £24m i gleientiaid ac mae dros 3000 o bobl o bob cwr o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector wedi mynychu ei sesiynau hyfforddi. 
 
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â phrofiad bach neu ddim profiad o ysgrifennu ceisiadau am gyllid grant, yn ogystal â’r rhai sydd am gynyddu nifer y cynigion maen nhw’n eu cyflwyno sy’n llwyddiannus.

Cynhelir y gweithdy ddydd Mercher, 13eg Mai, o 9.30 i 13.00 yng Nghanolfan Gymunedol Hawkesbury 
Cofrestru a lluniaeth o 9am 

I sicrhau mynediad deg i bawb, gofynnwn yn garedig i bob sefydliad neu grŵp archebu dim ond un lle.

Cadw eich lle yma

Mae nifer benodol o lefydd ar gael – sicrhewch eich lle’n gynnar i osgoi siom.

Nodyn: Mae cynnig hyfforddiant CGLlSFf wedi ei dargedu at sefydliadau sy’n gweithio o fewn Sir y Fflint a rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sy’n aelodau o CGLlSFf.

 

Ydych chi’n ansicr a ydych chi’n aelod o CGLlSFf?

Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://www.flvc.org.uk/news/membership/ i gofrestru – mae ond yn cymryd ychydig funudau, ac mae’n rhad ac am ddim ichi fanteisio ar y buddion hyn i aelodau’n unig.

Mewn partneriaeth gyda Groundwork, rydym yn cynnig hyfforddiant diogelu grŵp C AM DDIM i aelodau llawn CGLlSFf.

Pwrpas diogelu yw amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac addysgu rhai sydd o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.

Bydd yr hyfforddiant hanfodol hwn yn helpu chi i ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni eich cyfrifoldebau diogelu.

Mae’r holl wybodaeth am y safonau newydd a’r grwpiau ar gael ar y wefan yma.

 

Ymarferwyr grŵp C yw pobl sy’n uniongyrchol gyfrifol am ddiogelu pobl:

  • sydd â rôl asesu sy’n gysylltiedig â’r broses ddiogelu a / neu
  • sy’n gweithredu ar lefel lle gallant roi cyngor ar ddiogelu i’r rhai yng ngrŵp A a grŵp B a / neu
  • sydd mewn lleoliad y maent yn gweithio ynddo neu’n ei reoli a / neu
  • y maent yn treulio llawer o amser gyda nhw heb oruchwyliaeth a lle gallai pryderon diogelu godi.

Mae ymarferwyr grŵp C hefyd yn cynnwys person diogelu dynodedig y sefydliad a phobl sy’n cymryd rhan fwy amlwg mewn penderfyniadau diogelu, gan gynnwys rhai sydd â rôl weithredol mewn grwpiau craidd a gweithgareddau cynllunio diogelu.

Os ydych angen cymorth gyda’r wybodaeth uchod, neu greu polisi diogelu, cysylltwch â CGLlSFf.

 

Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn digwydd ar ddydd Llun, 20 Ebrill, a dydd Mawrth, 21 Ebrill. Rhaid i’r rheiny sy’n cymryd rhan fod yn bresennol am y ddau ddiwrnod.

 

Lleoliad: Ty Calon, Campws Queensferry, Ffordd Caer Gorllewin, Glannau Dyfrdwy, CH5 1SA

Gofynnwn yn garedig i’r rheiny sy’n cymryd rhan i gyrraedd erbyn 9:15 YB at gyfer cofrestriad, er mwyn cychwyn yn brydlon am 9.30 YB. Rydym yn disgwyl i’r hyfforddiant dod i ben am 2:30 YP (1:30 YP ar yr ail ddiwrnod)

Bydd lluniaeth ar gael o 9.15yb. Ni fyddwn yn darparu cinio ar y cwrs rhad ac am ddim hwn. Dewch a chinio gyda chi os gwelwch yn dda.

 

I sicrhau mynediad deg i bawb, gofynnwn yn garedig i bob sefydliad neu grŵp archebu dim ond un lle.

Cadw eich lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/free-safeguarding-group-c-training-for-flvc-members-tickets-1984776585195?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=cp&aff=ebdsshcopyurl

Nodyn: Mae cynnig hyfforddiant CGLlSFf wedi ei dargedu at sefydliadau sy’n gweithio o fewn Sir y Fflint a rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sy’n aelodau o CGLlSFf.

 

Ydych chi’n ansicr a ydych chi’n aelod o CGLlSFf?

Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://www.flvc.org.uk/news/membership/ i gofrestru – mae ond yn cymryd ychydig funudau, ac mae’n rhad ac am ddim ichi fanteisio ar y buddion hyn i aelodau’n unig.

Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf: Cyflwyniad i Siarad Cyhoeddus

Mae’r gweithdy rhagarweiniol hwn yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i hybu ei sgiliau a’u hyder mewn siarad cyhoeddus, hwyluso a chyfathrebu effeithiol.

Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn:

  • Derbyn cyflwyniad i’r agweddau sylfaenol sy’n sail i gyfathrebu effeithiol, unrhyw le ac ym mhobman.
  • Bwrw golwg ar adnoddau a thechnegau syml ar gyfer datblygu a chyflwyno cyflwyniadau effeithiol.
  • Rhoi cynnig ar siarad yn gyhoeddus (os hoffech chi!) mewn ffyrdd diogel a chefnogol.

Does dim angen gwybodaeth flaenorol arnoch chi, a bydd y gweithdy yn addas i’r rheiny sy’n nerfus am siarad yn gyhoeddus, ynghyd â’r rheiny sy’n awyddus i hybu a mireinio’u sgiliau.

Mike Corcoran fydd yn arwain eich gweithdy.

Mae Mike yn arbenigwr mewn hwyluso, cyfathrebu ac ymgysylltu cyhoeddus, ac mae’n cynnig cymorth i bobl a sefydliadau ar hyd a lled y wlad. Mae wedi arwain Cyrsiau Byr ar Siarad yn Gyhoeddus gyda Phrifysgol Wrecsam, wedi hyfforddi arweinwyr busnes drwy Raglen Twf Cyflym Busnes Cymru, ac mae’n hwylusydd rhaglen gydag Ysgol Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore.

Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, Ebrill 22, 10:00 i 12:00 yn Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewloe.

I sicrhau mynediad deg i bawb, gofynnwn yn garedig i bob sefydliad neu grŵp archebu dim ond un lle.

Cadw eich lle yma

Mae nifer benodol o lefydd ar gael – sicrhewch eich lle’n gynnar i osgoi siom.

Nodyn: Mae cynnig hyfforddiant CGLlSFf wedi ei dargedu at sefydliadau sy’n gweithio o fewn Sir y Fflint a rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sy’n aelodau o CGLlSFf.

 

Ydych chi’n ansicr a ydych chi’n aelod o CGLlSFf?

Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://www.flvc.org.uk/news/membership/ i gofrestru – mae ond yn cymryd ychydig funudau, ac mae’n rhad ac am ddim ichi fanteisio ar y buddion hyn i aelodau’n unig.

Cyfarfod Rhwydwaith Babanod, Plant a Phobl Ifanc

Mae ein cyfarfod Rhwydwaith Babanod, Plant a Phobl Ifanc nesaf yn digwydd ar ddydd Iau, Mawrth 26, rhwng 10:00 YB i 12:00 YP.

Lleoliad: Eglwys Fethodistaidd Gresffordd, Ffordd Caer, Gresffordd, Wrecsam, LL12 8PA

Mae’r cyfarfod yn gyfle i rwydweithio gyda gwasanaethau trydydd sector, awdurdod lleol a gwasanaethau iechyd eraill sy’n cefnogi babanod, plant a theuluoedd ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd y cyfarfod yn cael ei hwyluso mewn partneriaeth gyda AVOW.

Archebwch eich lle yma

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn digwydd rhwng 9 – 13 Chwefror 2026.

Bydd yn gyfle inni gydnabod a chlodfori’r gwaith anhygoel y mae sefydliadau elusennol lleol yn ei gyflawni i wella bywydau pobl eraill.

Mae elusennau’n llinell gymorth i’r bobl fwyaf bregus ond maen nhw hefyd yno i bobl yn ystod yr amseroedd da a drwg, gan gyflawni camau sy’n ymddangos yn rai bach ond sy’n gwneud gwahaniaeth aruthrol.

Mae digonedd o ffyrdd hawdd o gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru. Mae CGGC wedi cynhyrchu deunyddiau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’r wythnos.

Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r pecyn ymgyrchu, ymwelwch: https://wythnoselusennau.cymru/

Os oes angen cymorth ar eich grŵp neu eich sefydliad chi gydag unrhyw un o’r canlynol, cysylltwch gyda ni am wybodaeth, cefnogaeth a chyngor:

  • Rolau a chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr
  • Dod o hyd i Ymddiriedolwyr newydd
  • Eiddo
  • Arbed ynni / lleihau carbon
  • Yswiriant
  • Cyllid a chodi arian
  • Gwirfoddolwyr

Cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar ein gwefan yma: Canllawiau i Grwpiau, neu ffoniwch ni ar 01352 744027.

Dymuna Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint eich gwahodd i’w Cynhadledd y Trydydd Sector.

Dyddiad ac Amser: Dydd Mawrth y 10fed o Fawrth 2026, (9:00 YB tan 1:00 YP)

Lleoliad: Theatr Clwyd, Raikes Lane, Yr Wyddgrug, CH7 1YA

Thema digwyddiad Gwanwyn 2026 ydy ymateb i anghenion ein cymunedau.

Gan ddefnyddio Cynllun Lles Sir y Fflint a Wrecsam fel canllaw, byddwn yn arddangos rhai enghreifftiau o sut mae sefydliadau Trydydd Sector a sefydliadau partner Statudol yn ymateb yn greadigol i’n hanghenion fel trigolion Sir y Fflint.

Yn ogystal â rhai cyflwyniadau sy’n procio’r meddwl, buasem yn gwerthfawrogi petaech yn cymryd rhan yn uniongyrchol ar y diwrnod, er mwyn helpu i ddylanwadu sut caiff trigolion Sir y Fflint eu cefnogi yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i gwrdd â chydweithwyr, dysgu, rhwydweithio, a rhannu syniadau.

Sicrhewch eich lle yma

Mae enwebiadau ar gau ar gyfer Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2026.

Mae proses enwebu Gwobrau’r Uchel Siryf ar gyfer 2026 ar gau.

Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2013, yn cydnabod unigolion a grwpiau cymunedol sydd ag amcanion elusennol ac sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol yn eu cymunedau. Dros y blynyddoedd mae gwirfoddolwyr a grwpiau di-ri wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.

Mae tair gwobr yn cael eu rhoi ar gyfer pob un o’r siroedd sy’n ffurfio’r hen Sir Clwyd: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam:

  • Dwy wobr am gyfraniad eithriadol gan unigolyn
  • Un wobr am gyfraniad eithriadol gan grŵp gwirfoddol neu gymunedol sydd ag amcanion elusennol

Bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn seremoni gydnabod arbennig a fydd yn cael ei chynnal ar Mawrth 14 2026.

Mae enwebiadau ar gau ar gyfer Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2026.

Mae proses enwebu Gwobrau’r Uchel Siryf ar gyfer 2026 ar gau.

Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2013, yn cydnabod unigolion a grwpiau cymunedol sydd ag amcanion elusennol ac sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol yn eu cymunedau. Dros y blynyddoedd mae gwirfoddolwyr a grwpiau di-ri wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.

Mae tair gwobr yn cael eu rhoi ar gyfer pob un o’r siroedd sy’n ffurfio’r hen Sir Clwyd: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam:

  • Dwy wobr am gyfraniad eithriadol gan unigolyn
  • Un wobr am gyfraniad eithriadol gan grŵp gwirfoddol neu gymunedol sydd ag amcanion elusennol

Bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn seremoni gydnabod arbennig a fydd yn cael ei chynnal ar Mawrth 14 2026.

Cwrdd â’r Cyllidwr – Cist Gymunedol Sir y Fflint

Dydd Mercher, Rhagfyr y 3ydd 2025

10:00YB – 11:30YB

Ar-lein ar Microsoft Teams

 

Ydych chi’n elusen fach, o dan arweiniad y gymuned neu’n fudiad gwirfoddol yn Sir y Fflint sy’n chwilio am gyllid ar gyfer prosiect cymunedol?

Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael tuag at y canlynol:

  • Mân welliannau cyfalaf i gyfleusterau cymunedol
  • Cyfarpar
  • Hyfforddiant a/neu ddigwyddiadau ymwybyddiaeth
  • Digwyddiadau untro i’r gymuned gyfan

Rydym yn cynnal gweminar rhad ac am ddim ynghylch cronfa Cist Gymunedol Sir y Fflint, lle gallwch dderbyn gwybodaeth cyn mynd ati i ymgeisio a chymorth gan y Swyddog Grantiau.

Bydd y sesiwn yn ymdrin â meini prawf y gronfa, y broses ymgeisio, amserlenni a nodweddion cais effeithiol.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am y gronfa, ac os ydych chi’n gymwys i ymgeisio. Bydd cyfle ichi ofyn cwestiynau’n ogystal.

Cadwch eich lle rhad ac am ddim yma

Byddwn yn anfon dolen i ymuno â’r sesiwn dros e-bost

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y gronfa

Hyfforddiant AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf: Cyflwyniad i Reoli Gwirfoddolwyr

Caiff y cwrs hwn, a ddatblygwyd yn genedlaethol, ei gynnal gan ddau arbenigwr yn y maes rheoli gwirfoddolwyr a bydd y diwrnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli, am addas!

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Disgrifio beth sydd ei angen pan fyddwch yn cynllunio ar gyfer gwirfoddoli
  • Deall beth mae rheoli gwirfoddolwyr yn dda yn ei olygu
  • Egluro sut i recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr yn ddiogel
  • Gwerthfawrogi sut i gyfathrebu’n dda gyda gwirfoddolwyr
  • Rhestru pa bolisïau a gweithdrefnau a ddylai fod ar waith

Dyma’r cwrs perffaith i’r rheiny sydd ond megis cychwyn gweithio gyda gwirfoddolwyr ac i’r rheiny a fyddai’n awyddus i gael eu hatgoffa o’r prif egwyddorion.

Bydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn rhedeg ar ddydd Iau, Rhagfyr 4, yn cychwyn yn brydlon am 9.30yb ac yn dod i ben am 4.00yp yn Ganolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug.

Mae’r hyfforddiant yn rhad ac am ddim i aelodau CGLlSFf (gallwch ymaelodi am ddim – cliciwch yma os nad ydy eich sefydliad wedi ymaelodi). Os nad ydych yn siŵr am eich statws aelodaeth, cysylltwch â ni ar 01352 744000 neu e-bostiwch [email protected].

Mwyafswm o un person i gymryd rhan fesul grŵp neu sefydliad.

Bydd paned a sudd ar gael o 9.15yb. Gofynnwn i’r rheiny sy’n cymryd rhan i fod yn bresennol am y diwrnod cyfan, er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr hyfforddiant a’r dysgu.

NI FYDDWN yn darparu cinio ar y cwrs rhad ac am ddim hwn – byddem yn eich annog i ddod â’ch cinio gyda chi, gan fod opsiynau cyfyngedig iawn yn yr ardal gyfagos.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch gyda: [email protected]

Rydym yn rhagweld y bydd y cwrs yn boblogaidd dros ben, felly ewch ati i gadw lle cyn gynted â phosibl.

Archebwch eich lle yma! 

Dathliad Rhwydweithio Nadolig Trydydd Sector Gogledd Cymru

Yn dilyn y llwyddiant a’r adborth cadarnhaol o ddigwyddiadau blaenorol, hoffai’r CGSau ledled Gogledd Cymru eich gwahodd i Ddigwyddiad Rhwydwaith Llesiant Gogledd Cymru nesaf a gynhelir ar 10 Rhagfyr yng Nghlwb Rygbi’r Rhyl.

Ymunwch â ni i gyd ar 10 Rhagfyr o 9.30am am ddiwrnod o ymgysylltu a rhwydweithio gyda sefydliadau sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru.

Sylwch, oherwydd natur y digwyddiad, ei bod yn debygol o fod yn eithaf swnllyd neu’n swnllyd iawn a bydd llawer o weithgareddau a rhyngweithiadau yn digwydd drwy gydol y dydd.

Bydd croeso byr iawn gan bob CGS a’ch ymarferwyr ymgysylltu BCU rhanbarthol ac yna gweithgareddau rhyngweithiol gyda gweithwyr proffesiynol eraill o bob cwr o’r rhanbarth.

Fel gyda blynyddoedd blaenorol, rydym yn gobeithio y byddwch yn cyrraedd yn eich gwisg Nadoligaidd ac yn cofleidio llawenydd y tymor.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae archebu’n hanfodol.

Archebwch eich lle yma

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y diwrnod.

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025 – Hyfforddiant AM DDIM

Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn cael ei chynnal rhwng 3 a 7 Tachwedd yn 2025 ac mae CGGC yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau am ddim i nodi’r achlysur.

Digwyddiad blynyddol yw wythnos yr ymddiriedolwyr i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac i amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

Thema eleni yw Dathlu, Ysbrydoli a Chefnogi.

Mae CGGC yn dathlu’r wythnos drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ymddiriedolwyr (a’r rhai a hoffai wybod mwy am ddod yn un) gymryd rhan ynddynt.

Cliciwch yma i ddarganfod yr amrywiaeth o hyfforddiant sydd ar gael

Ein 28ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 

Ar ddydd Iau, Hydref y 9fed 2025, cynhaliodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint eu 28ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghlwb Rygbi Yr Wyddgrug.

Cyn cychwyn y cyfarfod, roedd cyfle i’r rheiny oedd yn bresennol rwydweithio a mwynhau lluniaeth wedi’i ddarparu gan y clwb.

Yn dilyn croeso gan Ann Woods, Prif Swyddog FLVC, arweiniwyd y cyfarfod gan Ymddiriedolwyr CGLlSFf, Peter Agnew a Marjorie Thomson.

Daeth y noson i ben gydag ein Gwobrau Gwirfoddolwyr Ifanc FLVC, gan glodfori llwyddiannau a chyfraniadau anhygoel gwirfoddolwyr ifanc ledled Sir y Fflint.

Derbyniodd pob enwebai dystysgrif a thaleb rhodd i gydnabod eu gwaith caled. Mae effaith y gwirfoddolwyr hyn ar eu cymuned wir yn amhrisiadwy.

Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i’r digwyddiad a hoffem hefyd estyn llongyfarchiadau enfawr i’r holl enillwyr ac enwebai – rydych chi’n ysbrydoliaeth llwyr.

At hyn, hoffem ddiolch i’r Cynghorydd Mel Buckley am agor ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn swyddogol – roedd yn bleser eich cael chi yno gyda ni.

Sesiwn Hyfforddiant – Cymorth Costau Byw ar gyfer Adeiladau Cymunedol

Ydych chi’n cael trafferth gyda’r costau ynni cynyddol yn eich adeilad cymunedol?

Ymunwch gydag ein sesiwn Cymorth Costau Byw ar gyfer Adeiladau Cymunedol i ddarganfod ffyrdd cost isel ac ymarferol o arbed ynni, lleihau biliau a diogelu eich gofod ar gyfer y dyfodol!

Mewn partneriaeth gyda Litegreen, rydym yn cynnig yr hyfforddiant AM DDIM i aelodau CGLlSFf.

Mae’r sesiwn yn cynnig:

  • Arweiniad Arbenigol:Dysgu gan weithwyr proffesiynol effeithlonrwydd ynni cymwys, cydlynwyr ôl-ffitio, a chynghorwyr sy’n meddu ar ddegawdau o brofiad yn cynnig cymorth i fannau cymunedol.
  • Awgrymiadau Ymarferol:Derbyn cyngor cam wrth gam ar leihau costau gwresogi a goleuo, gwella ynysu a manteisio i’r eithaf ar eich systemau presennol.
  • Deall y Rheolau:Cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rheoliadau mwyaf diweddar megis MEES a PAS2038, a dysgu sut i fodloni’r safonau effeithlonrwydd ynni isaf.
  • Arbedion Gwirioneddol:Gweld sut gall mân newidiadau – fel newid i ddefnyddio goleuadau LED, defnyddio rheolyddion gwresogi, ac ynysu eich adeilad – arwain at arbedion sylweddol.
  • Cyngor Annibynnol:Derbyn cymorth diduedd, astudiaethau dichonoldeb, a helpu gyda chynllunio uwchraddio – dim cynllun gwerthiant, dim ond yr hyn sydd orau i’ch adeilad chi.
  • Cwestiynau ac Atebion a Chymorth:Mae croeso ichi gyflwyno’ch cwestiynau! Mae ein harbenigwyr yn barod i’ch helpu i lunio cynllun wedi’i deilwra ar gyfer eich adeilad cymunedol.

Mae’r sesiwn yn rhedeg 4yh – 5yp ar ddydd Mercher, Hydref 15 yn Glwb Chwaraeon a Hamdden Ewlo – yn ogystal ag ein Ffair Ariannu! 

Cadw eich lle yma

Ydych chi’n ansicr a ydych chi’n aelod o CGLlSFf?

Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://form.jotform.com/241293630151044 i gofrestru – mae ond yn cymryd ychydig funudau, ac mae’n rhad ac am ddim ichi fanteisio ar y buddion hyn i aelodau’n unig.

Ffair Ariannu CGLlSFf

Hoffech gysylltu â nifer o gyllidwyr er mwyn archwilio amrywiaeth o gyfleoedd amgylcheddol? Ydych eisiau trafod eich prosiectau a’ch cynigion gyda chyllidwyr bosibl?

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher, Hydref 15, ar gyfer Ffair Ariannu CGLlSFf.

📍 Clwb Chwaraeon a Hamdden Ewlo

🕒 Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 3 YP a 6 YH

Bydd amrywiaeth o gyllidwyr yn bresennol, gan gynnwys:

  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer
  • Egin / CYD Cymru
  • CGGC
  • Chwaraeon Cymru
  • Sefydliad Co-op
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • Antur Cymru

Ewch i’n tudalen Facebook y digwyddiad am fwy o wybodaeth: https://fb.me/e/6ZdEDbNjm

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant AM DDIM ar y diwrnod i aelodau CGLlSFf – dilynwch y cyswllt i ddysgu mwy: https://www.flvc.org.uk/cy/sesiwn-hyfforddiant-cymorth-costau-byw-ar-gyfer-adeiladau-cymunedol/

Ydych chi’n ansicr a ydych chi’n aelod o CGLlSFf?

Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://form.jotform.com/241293630151044 i gofrestru – mae ond yn cymryd ychydig funudau, ac mae’n rhad ac am ddim ichi fanteisio ar y buddion hyn i aelodau’n unig.

Darganfyddwch gyllid am ddim ar gyfer eich Grŵp Cymunedol – Peidiwch â Cholli allan!

Ydych chi’n chwilio am ffordd syml o ddod â chyllid ychwanegol i’ch grŵp cymunedol? Ymunwch â’n sesiwn ar-lein am ddim i ddarganfod sut gallwch ddatgloi cyllid anghyfyngedig drwy easyfundraising – trwy annog eich cefnogwyr i siopa ar-lein!

Yn ystod y sesiwn gyfeillgar ac anffurfiol hon, bydd Becky Coleman o easyfundraising yn dangos i chi sut y gall eich aelodau, gwirfoddolwyr, a’r gymuned ehangach godi rhoddion am ddim ar gyfer eich grŵp bob tro y maen nhw’n siopa ar-lein – o fwyd siopa i wyliau a rhwng popeth arall.

 

Yr Sesiwn:

  • Arddangosiad o sut mae easyfundraising yn gweithio
  • Cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i ymuno
  • Awgrymiadau i’ch helpu i godi cymaint â phosib
  • Cyfle i ofyn eich cwestiynau i Becky mewn sesiwn Q&A

 

Pwy Ddylai Fynychu?

Unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn codi arian neu’n cefnogi grŵp cymunedol – os ydych yn wirfoddolwr, trefnydd, neu’n frwdfrydig am helpu eich grŵp. Mae’n iawn i wahoddi eraill o’ch tîm!

 

Pryd a ble:

Dyddiad: Dydd Iau, Hydref 2

Amser: 1yh – 2yh

Lle: Ar Zoom

 

Archebwch eich lle yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/xN-Hz4h-TFSiGydYXMiveA

 

Gwybodaeth am easyfundraising

Gyda easyfundraising, bydd dros 8,000 adwerthwyr yn rhoi i’ch grŵp pan fydd eich cymuned yn siopa ar-lein. Mae’n hollol rad ac am ddim i’w ddefnyddio, ac mae’r rhoddion yn anghyfyngedig – sy’n golygu gallwch eu gwario ar unrhyw beth y mae eich grŵp ei angen fwyaf. Byddwch yn derbyn eich arian bob tair mis.

Dechreuwch nawr: www.easyfundraising.org.uk/flintshire

Cynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Iau, Hydref 9 2025, yn Glwb Rygbi Yr Wyddgrug (Ffordd Caer, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1UF).

Rhwng 5:30 yh a 7:30 yh, bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn digwydd a fydd yn dod i ben gydag ein Gwobrau Gwirfoddolwyr Ifanc.

Archebwch eich lle trwy anfon neges e-bost i [email protected] erbyn dydd Llun, 6ed o Hydref.

Neu, archebwch eich lle gan ddefnyddio’r ddolen yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/cyfarfod-cyffredinol-blynyddol-cgllsff-flvc-annual-general-meeting-tickets-1421037434219?aff=oddtdtcreator

Cyfarfod Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr CGLlSFf

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher, Medi 24, yn Glwb Cymuned a Gerddi Yr Wyddgrug ar gyfer ein Cyfarfod Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr nesaf (10.00 yb – 12.00 yp).

Mae’r digwyddiad am ddim ac ar gyfer unrhyw berson sydd mewn rôl sy’n cynnwys recriwtio, cefnogi neu gydlynu gwirfoddolwyr.

Thema’r sesiwn hon yw “Tyfu Gyda’n Gilydd: Pŵer gwirfoddolwyr ifanc i greu a chysylltu cymunedau”.

Archebwch eich lle yma!

Cafodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint fodd i fyw yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.

Yn garedig iawn, estynnodd CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) ac AVOW (Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam) wahoddiad i’n staff ymuno gyda nhw yn yr Hwb Sector Gwirfoddol am yr wythnos.

Roedd yr Hwb Sector Gwirfoddol yn llawn prysurdeb yn ystod yr wythnos. Roedd yn gyfle i’r cyhoedd gwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector sy’n cyflawni gwaith gwych ledled Wrecsam a’r siroedd cyfagos. At hyn, roedd yn gyfle i’n staff rwydweithio gyda grwpiau trydydd sector eraill, cryfhau ein partneriaethau a chreu cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.

Wrth gwrs mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad diwylliannol sylweddol ar gyfer trigolion Cymru, a braint o’r mwyaf oedd bod yn rhan ohono. Roedd ein staff Cymraeg eu hiaith wrth eu bodd a bu inni gyd fwynhau’r cyfle i glodfori’r iaith Gymraeg.

Diolch i CGGC ac AVOW am ein gwahodd! Hoffem hefyd ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol am eu holl waith caled drwy gydol yr wythnos.

Diolch yn fawr!

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – derbyn enwebiadau nawr

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl! Mae’r gwobrau, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.

Dyma eich cyfle i ddathlu effaith drawsnewidiol elusennau, gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yng Nghymru. P’un a ydyn nhw’n enillydd neu yn y rownd derfynol, mae cael eu henwebu am wobr yn dangos mudiad neu unigolyn bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Y CATEGORÏAU

Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni:

  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
  • Codwr arian y flwyddyn
  • Gwobr Hyrwyddwr Amrywiaeth
  • Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg
  • Mudiad bach mwyaf dylanwadol
  • Gwobr iechyd a lles
  • Gwobr Mudiad y Flwyddyn

CYMRYD RHAN

Mae enwebu rhywun yn hawdd, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru, darllenwch y rheolau a llenwi’r ffurflen ar-lein.

Achubwch ar y cyfle hwn i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr, a rhoi’r cyfle iddo gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson hudol i’w chofio yn seremoni Gwobrau Elusennau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Medi 2024. I gael rhagor o wybodaeth ac i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i’n prif noddwr Y Brifysgol Agored Cymru a noddwyr y categorïau eraill.

Cyfle i ddweud “diolch yn fawr” a “da iawn” i wirfoddolwyr ifanc.

Mae pobl ifainc yn Sir y Fflint yn gwneud pethau anhygoel i helpu eraill yn yr ardal hon ac ym mhell. Rydym ni eisiau dathlu a chydnabod yr effaith y mae rhodd wirfoddol o’u hamser yn ei chael ar unigolion, cymunedau lleol a’r amgylchedd.

Os oes pobl ifainc yn gwirfoddoli gyda’ch grŵp / sefydliad, mewn unrhyw rôl, cymerwch y cyfle hwn i’w enwebu nhw ar gyfer ein Gwobrau Gwirfoddolwyr Ifanc – bydd pawb sy’n cael ei enwebu yn derbyn tystysgrif ac mae gwobrau ar gael ar gyfer Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn a Gwobr Grŵp Gwirfoddolwyr Ifanc 2024 os oes gennych dîm gwych o bobl ifanc yn eich helpu.

Mae’r proses enwebiad yn syml ac yn fyr:

Young Volunteer of the Year Award Nomination Form

Young Volunteers Group Award Nomination Form

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Iau, Medi 12 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, Cysylltwch â [email protected] neu ffonio 01352 744000

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i dynnu sylw at gyfraniad cadarnhaol pobl ifanc sydd eisiau helpu eraill.

Meet The Funder Online event 

FLVC are hosting a Meet The funder event with Community Foundation Wales on Thursday 23rd May at 11am.

Book your place HERE

 

Manylion y gronfa 

Sefydliad Cymunedol Cymru – Cronfeydd Sir y Fflint ar gyfer grwpiau 

Mae’r ddwy gronfa’r Sefydliad i Sir Y Fflint, y Gronfa Waddol Cymunedol a’r Gronfa Ddeddf yr Eglwys wedi ei ailagor ar gyfer ceisiadau gan grwpiau: 

Mae Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint yn cefnogi: 

  • Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc o oedran ysgol 
  • Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol i blant yn y blynyddoedd cynnar 
  • Prosiectau mewn ysgolion sy’n annog byw yn iach 

 

Mae Cronfa Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru Sir y Fflint yn cefnogi: 

  • Prosiectau sy’n cyfrannu at adnewyddu a chynnal a chadw eglwysi, capeli a neuaddau pentref yn y sir. 
  • Prosiectau sy’n gweithio i ymladd anfantais er budd trigolion Sir y Fflint. 
  • Prosiect sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar gyfer trigolion Sir y Fflint. 

Gall Eglwysi a sefydliadau sy’n gweithio gyda thrigolion ardal Awdurdod Lleol Sir y Fflint wneud cais am grantiau hyd at £1,000 ar gyfer prosiect blwyddyn neu gyllid gyfalaf bach, neu gyllid aml-flwyddyn o hyd at 3 blynedd ar gyfer cyllid craidd. 

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen. 

Mae angen lenwi’r ffurflenni gais erbyn 12 y.p canolddydd, Mehefin 17 2024 

Cronfeydd Sir y Fflint – Community Foundation Wales