Eich gwybodaeth
Bydd FLVC ac AVOW yn cadw’r wybodaeth byddwch yn ei chyflwyno ar y ffurflen gofrestru drwy’r system MailChimp. Bydd MailChimp yn prosesu ac yn cadw’r wybodaeth, yn defnyddio gweinydd o’r UDA. Does gan MailChimp ddim perthynas uniongyrchol gyda’n tanysgrifwyr. Gwelwch Bolisi Preifatrwydd MailChimp i wybod mwy.
Bydd angen eich enw a chyfeiriad e-bost arnom inni fedru anfon yr e-fwletin atoch chi. Mae’r holl wybodaeth eraill yn ddewisol.
Sut byddwn yn defnyddio’ch manylion
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chyflwyno i anfon e-fwletin Rhwydwaith Llesiant Gogledd Ddwyrain Cymru, sef y Daily Digest.
Yn ogystal ag unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chyflwyno, bydd MailChimp yn casglu gwybodaeth yn awtomatig, fel eich lleoliad lled agos a pha gleient e-bost rydych yn ei ddefnyddio (e.e. Outlook 2007, 2010 ac ati). Dydy hyn ddim yn nodwedd y gallwn ei ddiffodd ond ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon er unrhyw ddibenion.
Bydd MailChimp hefyd yn cadw cofnod o’r e-fwletinau byddwch yn eu hagor ynghyd ag unrhyw ddolenni byddwch yn eu clicio. Dydy hyn ddim yn nodwedd y gallwn ei ddiffodd ond ni fyddwn yn ei ddefnyddio’n ymarferol er mwyn bwrw golwg ar unigolion : rydyn ni ond yn bwrw golwg ar yr ystadegau cyffredinol.
Os byddwn yn dymuno defnyddio’ch data personol er diben newydd, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i fedru defnyddio’ch data er y diben newydd.
Ni fyddwn yn datgelu’ch data personol i fudiadau neu unigolion eraill. Pan fyddwn yn dymuno datgelu’ch data personol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd yn ysgrifenedig i’w ddatgelu.
Bwrw golwg ar eich gwybodaeth a’i gywiro
Gallwch ganfod pa wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi. Hefyd gallwch newid neu gywiro’r wybodaeth drwy glicio ar y ddolen ‘diweddaru eich dewisiadau’ ar waelod unrhyw e-fwletin.
Gallwch ddad-danysgrifio o unrhyw restr bostio drwy glicio ar y ddolen ‘dad-danysgrifio o’r rhestr hon’ ar waelod unrhyw e-fwletin. Sylwch na fydd hyn yn dileu unrhyw gofnodion blaenorol: cysylltwch gyda Karen Peters (karen.peters@flvc.org.uk) wedi ichi dad-danysgrifio er mwyn inni eich dileu yn gyfan gwbl.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch gyda fran.hughes@flvc.org.uk