Polisi Cwcis
Mae rhai gwefannau yn storio ychydig o ddata o’r enw ‘cwcis’ ar eich cyfrifiadur er mwyn cadw cofnod eich bod wedi ymweld â’r wefan. Maen nhw hefyd yn ei gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Dysgwch sut y gallwch chi reoli pa gwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur.
Beth ydi cwci
Darn bychan o wybodaeth ydi cwci sy’n cael ei anfon i’ch cyfrifiadur neu ffôn symudol o wefan. Mae hyn yn golygu fod y wefan yn adnabod eich cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol os ydych chi’n dychwelyd i’r safle we. Yn aml mae gan gwci rif unigryw sy’n cael ei lunio ar hap. Mae hwn yn cael ei storio ar eich gyrrwr caled. Mae nifer o’r cwcis yn cael eu dileu yn awtomatig ar ôl i chi orffen defnyddio gwefan. Dydi cwcis ddim yn rhaglenni nac yn casglu gwybodaeth o’ch cyfrifiadur.
Pam felly fod rhai gwefannau yn defnyddio cwcis?
Dyma rai o’r prif resymau:
- Deall beth mae ymwelwyr eisiau ei ddefnyddio a beth nad ydyn nhw eisiau ei ddefnyddio.
- Gwybod sawl person sy’n edrych ar dudalen we benodol. Mae hyn yn cynorthwyo mudiadau i wneud eu gwefannau yn fwy defnyddiol.
- Cofio’ch dewisiadau pan rydych chi’n chwilio am wybodaeth neu’n defnyddio gwasanaeth.
- Galluogi gwefannau i wella’r gwasanaeth rydych chi’n ei dderbyn ac archifo’r wybodaeth nad ydych chi’n ei defnyddio. Er enghraifft, fe allwch chi deilwra hafan gwefan newyddion i ddangos y storïau sydd o ddiddordeb i chi. Byddai’r cwci yn ‘cofio’ hyn a byddai’r wefan yn arddangos yr wybodaeth rydych chi eisiau ei gweld.
- Galluogi’ch cyfrifiadur i gwblhau tasg heb ail-fewnbynnu gwybodaeth.
- Mae ar rai gwasanaethau angen storio cwcis ar eich cyfrifiadur er mwyn iddyn nhw weithio.
- Rheoli pa hysbysebion rydych chi’n eu gweld ar rai gwefannau
Cwcis ar wefan FLVC
Rydym ni’n defnyddio cwcis oherwydd y rhesymau isod – maen nhw i gyd yn bwysig i’r ffordd mae’r safle’n gweithio a does dim un cwci yn casglu unrhyw ddata personol.
- qtrans_cookie_test – mae’r cwci yma’n helpu’r dewisiadau iaith i weithio gyda bod y wefan yn ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg
Rydym ni hefyd yn defnyddio pecyn ystadegau o’r enw Clicky. Mae hwn yn gosod cwcis sy’n ein helpu ni i wybod sawl person sy’n defnyddio’n gwefan yn ogystal â pha mor aml mae pobl yn ymweld â thudalennau penodol. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth yma ar gyfer gwella ein gwefan a dangos i’n rhanddeiliaid pa mor aml mae pobl yn ymweld â hi. Dyma beth mae cwcis Clicky yn ei wneud:
- _jsuid: Rhif wedi ei ddewis ar hap sy’n cael ei greu gan y Côd y tro cyntaf mae rhywun yn ymweld â gwefan sydd â’r Côd wedi’i osod arni. Diben y cwci yma ydi adnabod ymwelwyr newydd ac unigryw. Mae gwerth y cwci yma’n cael ei anfon at y Gwasanaeth pob tro mae rhywun newydd yn defnyddio’r wefan. Mae gwerth y cwci hefyd yn cael ei anfon fel cwci trydydd parti gyda’r enw “cluid” os nad ydi’r cwci yn bodoli. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio gan wefannau sydd â sawl parth ac sydd eisiau cadw cofnod o sesiynau ymwelwyr ar draws sawl parth – dydi hyn ddim yn bosib gyda cwci parti cyntaf.
- first_pv_[site_id]: Dyma gwci sesiwn sy’n cael ei osod ar y dudalen gyntaf rydych chi’n ymweld â hi. Dim ond rhannau o’r Côd sy’n cael ei yrru pan rydych chi ar y dudalen gyntaf, sy’n golygu bod y wefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
- unpoco_[site_id]: Mae’r Côd yn anfon “pings” pan mae rhywun yn ymweld â thudalen sengl. Mae hyn yn galluogi’r gwasanaeth i gadw cofnod o faint o amser mae pobl yn ei dreulio ar y dudalen. Gyda bod y gosodiad yma’n defnyddio llawer o led band mae’n rhaid talu am y cyfrif. Gyda chyfrifon am ddim, mae’r cwci yma wedi ei osod i ddweud wrth y Côd am beidio ag anfon y “pings”. Mae’r cwci yma’n darfod ar ôl 24 awr ond bydd yn cael ei ailosod pan fydd y person yn ymweld â’r dudalen yn y dyfodol.
Rheoli cwcis
Mae gwefan yn anfon cwcis at eich porwr ac yna maen nhw’n cael eu cadw yng nghyfeirlyfr cwcis eich cyfrifiadur. Efallai mai Internet Explorer, Google Chrome, Firefox, Safari ydi’ch porwr, neu unrhyw un arall. I wirio ac i ddiweddaru’ch gosodiad cwcis bydd angen i chi wybod pa borwr rydych chi’n ei ddefnyddio a pha fersiwn sydd gennych chi. I wybod hyn fe allwch fel rheol agor eich porwr (fel petaech chi’n mynd ar y we) ac yna clicio ar ‘Help’ ac yna ‘About’.
I wybod sut i atal cwcis dilynwch y ddolen yma a dewiswch y porwr rydych chi’n ei ddefnyddio. Fe allwch chi hefyd dderbyn mwy o wybodaeth ar dudalen gymorth eich porwr. Os ydych chi’n atal cwcis mae’n bosib na fydd rhai nodweddion o’r wefan yn gweithio. I dderbyn gwybodaeth ar sut i wrthod cwcis ar eich ffôn symudol, trowch at eich llawlyfr ffôn.