Prif flaenoriaeth y rhwydwaith hwn ydy llywodraethu, neu mewn termau eraill, cynnal menter wirfoddol neu gymunedol yn effeithiol. Mae’n gyfle i ddysgu mwy gan arbenigwyr ynghylch ystod o bynciau perthnasol ac i drafod materion cyfundrefnol gyda’ch cyfoedion.
Does dim rhaid ichi fod yn ymddiriedolwr i fod yn rhan o’r Rhwydwaith Ymddiriedolwyr. Mae croeso i unrhyw un sydd ynghlwm â gwaith sefydlu a chynnal grŵp, clwb, mudiad, neu gymdeithas sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr a/neu sydd o fudd i’r gymuned, fel enghraifft aelodau bwrdd a phwyllgor, ysgrifenwyr a thrysoryddion ymuno.
Dyddiadau ar gyfer 2020:
- Dydd Mawrth, Mawrth yr 31ain 2020
Dyddiadau 2020 sy’n weddill i’w cadarnhau. Tanysgrifiwch i’r e-fwletin am wybodaeth bellach.
Cadw lle **MAE’N RHAID ICHI GADW LLE**
Rydym yn cynnal ein rhwydwaith yn ein swyddfa yn y Gorlan, fodd bynnag, os hoffech chi wahodd y rhwydwaith i gyfarfod yn swyddfa eich mudiad neu brosiect ar achlysur. Byddwn yn ystyried eich cais heb os.
Dyma brif nodau’r rhwydwaith:
- Datblygu a chynnal cysylltiadau defnyddiol
- Manteisio ar help i oresgyn rhwystr
- Rhannu ymarfer gorau, profiadau a gwybodaeth
- Dysgu mwy am adnoddau perthnasol ar gyfer cefnogi ymddiriedolwyr yn eu swydd.