Partneriaethau Rhanbarthol Allweddol
Partneriaethau Rhanbarthol Allweddol
Yn sgil ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a sefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) sy’n ymdrin â Gogledd Cymru gyfan, mae nifer y grwpiau cynllunio rhanbarthol yn cynyddu. Mae’r chwe Chyngor Gwirfoddol yng Ngogledd Cymru’n cydlynu cynrychiolaeth y sector ar sawl un o’r grwpiau hyn. Y prif gyswllt ar gyfer y maes gwaith hwn ydy’r Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bwrdd Iechyd
Y corff hwn sy’n gyfrifol yn bennaf am gynllunio ac adolygu gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae yna nifer o anweithredol sy’n aelodau o’r Bwrdd ac mae un o’r aelodau hynny’n gyfrifol dros adrodd yn ôl i’r sector gwirfoddol ac mae un arall wedi’i ddynodi fel aelod cymunedol.
Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (SRG)
Mae’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn grŵp cynghori sy’n adrodd yn ôl i’r Bwrdd Iechyd. Mae chwe aelod o’r sector gwirfoddol yn rhan o’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ar y cyd â chynrychiolwyr o sectorau eraill gan gynnwys chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru.