Ymgysylltu a Dylanwadu
CYDWEITHIO
Sut rydym yn cydweithio
Trosolwg o sut rydym yn cydweithio
Mae’r tîm Llesiant yn FLVC yn cefnogi’r trydydd sector a phartneriaid statudol mewn sawl ffordd.
Strategaeth
- Hyrwyddo mudiadau, gwasanaethau a gweithgareddau trydydd sector i bartneriaid statudol
- Cynrychioli’r trydydd sector mewn grwpiau cynllunio strategol a grwpiau partneriaeth
- Cynnwys y trydydd sector mewn ymgynghoriadau a chydweithio gyda nhw ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- Hyrwyddo cydweithio yn y trydydd sector a rhwng gwahanol sectorau
Datblygu
- Gallwn helpu i gefnogi mudiadau gan eu rhoi ar ben ffordd neu gynnig cymorth busnes, llywodraethu a chyngor am gyllid
- Rydym yn cynnig hyfforddiant i fudiadau er mwyn iddyn nhw ddatblygu eu gallu a’u heffeithiolrwydd
- Gallwn egluro’r cymhlethdodau sydd ynghlwm â chomisiynu a chaffael
- Gallwn rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a’ch hysbysu am y newidiadau yn strwythurau’r GIG a’r awdurdodau lleol
- Gallwn eich helpu i sefydlu gwasanaeth neu grŵp newydd
- Gallwn gefnogi’r trydydd sector yn Sir y Fflint i fanteisio ar wasanaethau FLVC
Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid statudol i gynnig gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd, am fudiadau, gwasanaethau a gweithgareddau trydydd sector
- Rydym yn codi ymwybyddiaeth o ddarpariaeth iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant y trydydd sector ymysg gweithwyr proffesiynol
- Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid statudol i ddatblygu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor gan gynnwys Un Pwynt Mynediad (SPoA) a Dewis
Partneriaethau
P'un a ydych am ddatblygu gwasanaethau newydd neu ehangu'r rhai presennol, amlygu anghenion neu ddylanwadu ar gynllunio a darparu gwasanaethau, gall FLVC helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gan weithio gyda phartneriaid eraill yn y sector gwirfoddol a sefydliadau statudol, gallwch rannu syniadau ac arbenigedd i sicrhau bod eich gwasanaethau a'ch gweithgareddau yn ategu ei gilydd. Mae'r adran hon o'r wefan yn dweud wrthych am bartneriaethau cyfredol a mwy.
Partneriaethau, Fforymau a Rhwydweithiau
Mae FLVC a rhanddeiliaid eraill o'r sector gwirfoddol yn cynrychioli'r sector ar nifer o bartneriaethau, fforymau a rhwydweithiau aml-asiantaeth, ar draws ystod o feysydd gwasanaeth.