Gwybodaeth Amdan

white_overlay_1-1.svg

AMDANOM NI

FLVC – Ein Gwaith?

FLVC ydy mudiad ymbarél a chymorth ar gyfer dros 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint. Dyma’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig drwy Gytundeb Seilwaith Llywodraeth Cymru:  

  • Cynnig gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ynghylch materion llywodraethu a chyllid
  • Datblygu a rhannu gwasanaethau gwirfoddoli effeithiol, gan gynnwys trefnu lleoliadau ar gyfer gwirfoddolwyr, cynnig hyfforddiant a rhannu arfer da ynghylch recriwtio, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr
  • Adnabod anghenion dysgu yn y Trydydd Sector a threfnu a darparu hyfforddiant
  • Adnabod materion lleol, cynrychioli / adlewyrchu barn a phryderon y sector gwirfoddol gerbron gwneuthurwyr penderfyniadau a dylanwadu gwaith cynllunio lleol
  • Meithrin partneriaethau gyda mudiadau gwirfoddol a statudol
  • Cydweithio gydag asiantaethau eraill i ddatblygu prosiectau er mwyn diwallu anghenion y gymuned.