Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Volunteering2

Canolfan Wirfoddoli Sir y Fflint ydy’ch canolfan leol ar gyfer unrhyw beth sy’n ymwneud â gwirfoddoli.

Rydym yn cydweithio gydag unigolion, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mudiadau sector cyhoeddus i hyrwyddo gwirfoddoli ac i gefnogi pobl i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli sy’n gweddu iddyn nhw.

Ydych chi’n fudiad sy’n chwilio am gymorth i recriwtio neu reoli gwirfoddolwyr? Os felly, ewch i’n tudalen ar gyfer mudiadau

Y rhesymau dros wirfoddoli?

Mae pobl yn mynd ati i wirfoddoli am bob math o resymau gan gynnwys:

  • I gwrdd â phobl newydd
  • I roi cynnig ar rywbeth newydd
  • I gael hwyl
  • I wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau
  • I fynd rhagddi i ddod o hyd i waith â thâl
  • I’w ychwanegu at eich CV
  • I feddu ar brofiad ymarferol wrth astudio
  • I ddefnyddio sgiliau neu gymwysterau rydych yn meddu arnyn nhw eisoes
  • I fentro o’r tŷ
  • I hybu hyder
  • I deimlo’n ddefnyddiol ac wedi eich gwerthfawrogi
  • I deimlo’n rhan o dîm
  • I gynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned neu achos sy’n bwysig ichi
  • I roi cynnig ar rywbeth gwahanol

Mae sawl gwahanol ffordd y gallwch chi ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal:

  • Cofrestrwch ar-lein yma i fwrw golwg ar y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd yn Sir y Fflint ac i glywed am unrhyw gyfleoedd newydd sydd ar gael
  • E-bostiwch ni [email protected]
  • Ffoniwch ni 01352 744000

 

Siarter Gwirfoddolwyr FLVC

 Mae FLVC yn cydnabod hawliau'r gwirfoddolwyr o ran y canlynol:

  • Bod yn ymwybodol o beth sydd ( a beth sydd ddim) yn ddisgwyliedig ganddyn nhw
  • Meddu ar gymorth diginol yn en rol wirfoddol
  • Derbyn cydnabyddiaeth
  • Manteisio ar amodau gweithio diogel
  • Meddu ar yswiriant
  • Bod yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau os bydd rhywbeth yn mynd o'i le
  • Derbyn hyfforddiant priodol
  • Peidio a chael eu gwahaniaethu
  • Derbyn y cyfle i ddatblygu'n beronol

 Mae FLVC yn disgwyl y canlynol gan y gwirfoddolwyr:

  • Eich bod yn ddibynadwy
  • Eich bod yn onest
  • Eich bod yn parchu cyfrinachedd
  • Eich bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd hyfforddiant a chymorth
  • Eich bod yn cyflawni tasgau mewn ffird sy'n adlewyrchu nodau a gwerthoedd FLVC
  • Eich bod yn gweithio gan gydymffurfio gyda'r canllawiau y cytunwyd arnyn nhw
  • Eich bod yn sicrhau bod unrhyw gerbyd rydych yn eu defnyddio'n gysylltiedig a ch lleoliad gwiroffoli wedi'u hyswirio'n ddigonol ar gyfer "Defynff Buses" a'ch bod yn meddu ar MOT cyfredol, os yn briodol.
  • Eich bod yn parchu gwaith FLVC a pheidio a dwyn anfri ar y sefydliad
  • Eich bod yn cydymffurfio gyda pholisiau FLVC

Cymorth ichi gychwyn arni i wirfoddoli

Gallwn gynnig cymorth i bobl ifanc (14+ oed) i ymwneud gyda, manteisio ar a rhoi cynnig ar gyfleoedd gwirfoddoli o’u dewis nhw

•      Cymorth pwrpasol ar gyfer unigolion i ymchwilio’r buddion posibl sydd ynghlwm â gwirfoddoli

•      Cyfateb sgiliau a hoffterau unigolyn i leoliadau addas

•      Mynd gydag unigolion i gyfarfodydd sefydlu cychwynnol (mewn grŵp gwirfoddol neu gymunedol sefydledig)

•      Cymorth i grwpiau o bobl ifanc i drefnu eu gweithgaredd gwirfoddoli eu hunain

•      Cymorth i fudiadau recriwtio a hyfforddi pobl ifanc i wirfoddoli’n lleol"

I wybod mwy am y cynllun hwn, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01352 744000

Vol image
FLVC-VOLUNTEER-CENTRE-LOGO-300x173.jpg
vol-fun1