Volunteering
Gwirfoddoli
Ydych chi’n unigolyn sy’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli?
Os felly, ewch i’n tudalen gwirfoddolwyr
Gallai rheoli gwirfoddolwyr neu gydweithio gyda nhw am y tro cyntaf ymddangos fel tasg frawychus, ond gallwn eich helpu gyda’r holl agweddau sydd ynghlwm â rheoli gwirfoddolwyr drwy gydol eich taith – o’r hanfodion hyd at sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r manylion diweddaraf ynghylch rheoli gwirfoddolwyr a gwybodaeth am y safon ansawdd gwirfoddoli gaiff ei gydnabod yn genedlaethol, Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Os ydych chi’n recriwtio ar gyfer rolau gwirfoddoli, gallwch eu cofrestru yma i'w rhannu gyda nifer helaeth o bobl sy'n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn Sir y Fflint. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda hyn, mae croeso ichi gysylltu gyda ni.
Dewch i ganfod sut gallwn ni gydweithio gyda chi i reoli eich gwirfoddolwyr, recriwtio gwirfoddolwyr newydd a manteisio ar adnoddau arfer da, templedi, polisïau ac ati.
Contact:
[email protected]
Events
Volunteer Organisers Network Meeting (dates of the next two)
Gwybodaeth ddefnyddiol a chysylltiadau
Gwybodaeth ac adnoddau am ddim
Cofrestrwch gyda’r Hwb Gwybodaeth gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru i fanteisio ar wybodaeth ac adnoddau rhad ac am ddim ynghylch yr holl agweddau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr.
Os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth briodol neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch gyda ni
Gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol
Ewch i fwrw golwg ar waith CGGC ar y cyd â Helpforce Cymru er mwyn manteisio ar wybodaeth ac adnoddau rhad ac am ddim sy’n ymwneud â gwirfoddoli mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig. Mae eu hadroddiad The future we create – lessons from pandemic volunteering werth ei ddarllen.
Y berthynas rhwng gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr
I ddysgu mwy am bwysigrwydd meithrin perthynas dda rhwng staff a gwirfoddolwyr, darllenwch y siarter ar gyfer gwirfoddoli a pherthnasau yn y gweithle gan CGGC a TUC Cymru.
MEET THE TEAM
Emily Morgan
Volunteering Development Officer
Phone: (01352) 744 017
Email: [email protected]
Robyn Lee
Volunteering Development Officer
Phone: (01352) 744 019
Email: [email protected]