Swyddi Gwag Cyfredol
Swyddi Gwag Cyfredol
Caiff swyddi gwag eu cyflwyno ar ran mudiadau eraill ledled Gogledd Cynru a'r ardaloedd cyfagos. 'Cliciwch' ar y teitl swydd i weld mwy o wybodaeth
Addysg Oedolion Cymru - Clerc y Cyngor ac Ysgrifennydd y Cwmni
Rhan Amser: 21 awr yr wythnos
Parhaol
Graddfa Gyflog £44,010.50 i £47,696.58 pro rata y flwyddyn (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
Dyddiad cau: 12.00yp Dydd Gwener 4ydd Hydref
Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig a medrus i ymuno gyda’n tîm fel Clerc y Cyngor ac Ysgrifennydd y Cwmni. Yn y rôl lywodraethu hanfodol hon, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol a llywodraethu hanfodol i Gyngor Addysg Oedolion Cymru, ein Corff Llywodraethu. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod ein harferion llywodraethu yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, yn cyd-fynd ag arferion gorau, ac yn cefnogi ein nodau strategol.
Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfrannu at lywodraethu sefydliad deinamig a blaengar. Rydym yn ymroddedig i feithrin gweithle sy’n adlewyrchu’r cymunedau amrywiol a wasanaethwn, a chroesawn ymgeiswyr o bob cefndir sy’n cynnig amrywiaeth o safbwyntiau, galluoedd a sgiliau i’n helpu i gyflawni ein cenhadaeth o gael effaith ystyrlon ar ddysgwyr ledled Cymru.
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer pob mater sy’n ymwneud gyda llywodraethu’r Sefydliad.
- Trefnu a mynychu cyfarfodydd y Cyngor a phwyllgorau, sicrhau dogfennaeth gywir a chydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol a rheoliadol.
- Cynhyrchu cofnodion y cyfarfodydd hyn
- Darparu cyngor a chymorth arbenigol ar faterion llywodraethu i’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr ac aelodau’r Cyngor.
- Cynnal a rheoli cofnodion statudol a sicrhau adroddiadau amserol i gyrff perthnasol.
- Cyfrannu at y broses cynllunio strategol, sicrhau bod arferion llywodraethu yn cefnogi cenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad.
Os hoffech sgwrs anffurfiol neu i glywed mwy am y rôl cysylltwch â Stephen Thomas ( Ysgrifennydd y Cwmni presennol) [email protected]
Ymgeisiwch erbyn 12.00yp Dydd Gwener 4ydd Hydref gan ddefnyddio’r ffurflen gais sylwer os gwelwch yn dda na dderbynnir CV ar ei ben ei hun. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
SC745 Cydlynydd Ymchwil Cymheiriaid
Cymru gyfan
21 awr yr wythnos
£26,855per annum (pro rata) - £16,113pa
DYDDIAD CAU: 10am Dydd Llun 14eg Hydref
Mae Shelter Cymru yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru ac i frwydro yn erbyn yr effaith ddinistriol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl. Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn drwy gynnig cyngor tai arbenigol, annibynnol ac am ddim, ac ymgyrchu i oresgyn yr hyn sydd wrth wraidd yr argyfwng tai.
Mae Shelter Cymru o'r farn y dylai pobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd neu broblemau tai fod yn rhan sylfaenol o'n gwaith ymchwil a dylanwadu. Yn y rôl hon byddwch yn cydlynu gwaith ein tîm Ymchwil Cymheiriaid i arwain ar ymchwil i dai a digartrefedd ar gyfer Shelter Cymru a'n partneriaid. Byddwch yn cynnig hyfforddiant, cefnogaeth a mentora i Ymchwilwyr Cymheiriaid i feithrin eu sgiliau a'u hyder. Byddwch hefyd yn gweithio gyda’r Ymchwilwyr Cymheiriaid a chydweithwyr yn y tîm Polisi ac Ymchwil i farchnata cynnig Shelter Cymru yn allanol a chwilio am gyfleoedd i ehangu’r prosiect.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad personol o ansicrwydd tai. Mae profiad o ymchwil a hyfforddiant yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y rôl hon gan y bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu.
Rydyn ni'n gweithio gydag Ymchwilwyr Cymheiriaid ledled Cymru felly bydd angen i chi allu teithio i rannau eraill o Gymru pan fo angen.
Os hoffech drafod y rôl hon, gallwch siarad â Lauren Caley drwy e-bost [email protected] neu drwy ffonio 07920 752 468.
DYDDIAD CYFWELIAD: Dydd Mawrth 29ain Hydref
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
Tiwtoriaid Crefft Siwgr ac Addurno Cacennau
Cytundeb: Tâl fesul yr awr, Cyfnod penodol at ddiwedd y flwyddyn academaidd 2024/25
Oriau: Rhan amser, oriau amrywiol
Cyflog: £29.16 yr awr
Lleoliad: Sir y Fflint
Dyddiad cau: 9.00yb Dydd Mercher 16eg Hydref
Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Crefft Siwgr ac Addurno Cacennau i ddysgwyr yn ardal Sir y Fflint. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.
Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
- Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
- Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
- Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.
Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Os hoffech sgwrs anffurfiol neu i gael gwybod mwy am y rôl cysylltwch â Sarah O’Connell Jones, Rheolwr Rhanbarth Gogledd Cymru ar Sarah.O’[email protected].
Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Mercher 16eg Hydref 2024 gan ddefnyddio’r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.