Aelodaeth

Aelodaeth

Volunteering

Dewch yn aelod o FLVC heddiw!

Mae Cyngor Gweithredu Lleol Sir y Fflint (FLVC) yma i gefnogi, hyrwyddo, datblygu a chynrychioli’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn Sir y Fflint a byddwn ni’n helpu lle bynnag y gallwn ni. Rydym ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail aelodaeth sy’n ein helpu ni sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda chi ac ar eich cyfer chi.

Yma yn FLVC rydym ni’n croesawu aelodau newydd i’r sefydliad i sicrhau bod ein gwaith wedi’i lunio gan y rheiny rydym ni yma i’w cynrychioli.

Buddion ymaelodi
  • Gwiriad iechyd rheolaidd ac am ddim i’ch sefydliad neu ymweliad Gwrando Arnoch Chi.
  • Hysbysebu eich swyddi gwag am ddim ar wefan FLVC.
  • Blaenoriaeth wrth archebu lle ar gyfer digwyddiadau a hyfforddiant.
  • Mynediad at weithdai am ddim ar bynciau sy’n gysylltiedig â nawdd, llywodraethu, rheoli gwirfoddolwyr
  • Rhoi blaenoriaeth i eitemau gan aelodau gael eu cynnwys ar e-fwletin FLVC gaiff ei ddosbarthu i gannoedd o bobl allweddol o’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus yn Sir y Fflint.
  • Gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori a grwpiau ffocws arbennig.
  • Cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion ar lefel leol a chenedlaethol.

Mae aelodaeth am ddim – bydd aelodau llawn hefyd yn gallu pleidleisio yn ein Cyfarfod Blynyddol

Aelodau llawn:

Mae’n rhaid i sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n ymgeisio am aelodaeth lawn hefyd ddarparu copi o’u dogfen lywodraethu bresennol (cyfansoddiad/rheolau).

(Mae aelodaeth unigol ac aelodaeth gyswllt hefyd ar gael)

Os hoffech chi ddod yn aelod lawrlwythwch ein polisi aelodaeth a datganiad preifatrwydd a llenwch ein ffurflen gais i ymaelodi ar-lein:

Polisi Aelodaeth a Datganiad Preifatrwydd FLVC 24 25

Ffurflen gais am Aelodaeth FLVC 2024 2025

 

FLVC courses ACL