Telerau ac Amodau

DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN HON

Beth sydd yn y telerau hyn?

Mae’r telerau hyn yn dweud wrthych am y rheolau i ddefnyddio ein gwefannau:

https://www.flvc.org.uk

Cadwn bob hawl na fynegir yn benodol yn y telerau hyn.

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

Gweithredir y gwefannau gan FLVC, sef FLVC, ("ni"). Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cwmni 3301204  a’n cofrestru’n elusen o dan y rhif elusen 1062644. Mae ein swyddfa gofrestredig ydy Corlan, Parc Busnes yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint  CH7 1XP

I gysylltu â ni, ebostiwch [email protected], ysgrifennwch at Gwefeistr, FLVC, Corlan, Parc Busnes yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint  CH7 1XP neu ffoniwch ein llinell gwasanaeth cwsmeriaid sef 01352 744000.

Wrth ddefnyddio ein gwefannau rydych yn derbyn y telerau hyn

Wrth ddefnyddio ein gwefannau, rydych yn cadarnhau’ch bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefannau.

Fe’ch argymhellwn i argraffu copi o’r telerau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol.

Ceir telerau eraill a all fod yn berthnasol i chi

Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefannau:

  • Ein Polisi Preifatrwydd sy’n amlinellu’r telerau yr ydym yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi yn unol â nhw, neu yr ydych chi’n ei ddarparu i ni. Wrth ddefnyddio ein gwefannau, rydych yn caniatáu prosesu o’r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
  • Y Polisi Cwcis ar gyfer pob gwefan sy’n amlinellu gwybodaeth ynglŷn â’r cwcis ar ein gwefannau. Mae dolenni at ein polisïau cwcis ar gael ar bob gwefan unigol.

Gallwn newid y telerau hyn

Mae’n bosib y byddwn yn newid y telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bob tro rydych am ddefnyddio ein gwefannau, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau’ch bod yn deall y telerau sydd mewn grym bryd hynny.

Gallwn newid ein gwefannau

Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein gwefannau o bryd i’w gilydd.

Gallwn atal neu ddiddymu ein gwefannau

Mae ein gwefannau ar gael yn rhad ac am ddim.

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefannau, na’r cynnwys arnynt, ar gael bob amser nac yn ddi-dor. Mae’n bosib y byddwn yn atal neu’n diddymu neu’n cyfyngu argaeledd ein holl wefannau, neu ran ohonynt, am resymau busnes a gweithredol.

Mae aelodaeth o FLVC yn rhoi mynediad i aelodau at elfennau cyfyngedig o’r gwefannau nad ydynt ar gael i’r rheini nad ydynt yn aelodau. Ceisiwn sicrhau bod yr elfennau o’r wefan i aelodau ar gael 24 awr y dydd ond nid ydym yn gwarantu y bydd yr elfennau o’r wefan i aelodau ar gael bob amser nac yn ddi-dor.

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein gwefannau drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel

Os ydych yn dewis cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, neu os rhoddir y rhain i chi, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Rhaid i chi beidio â’i datgelu i drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i ddiddymu unrhyw god neu gyfrinair adnabod defnyddiwr, ni waeth a yw’n un a ddewiswyd gennych chi neu’n un a ddarparwyd gennym ni, unrhyw bryd os yn ein barn resymol rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn y telerau defnyddio hyn.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod unrhyw un arall heblaw amdanoch chi yn gwybod eich cod neu’ch cyfrinair adnabod defnyddiwr, rhaid i chi roi gwybod i ni yn brydlon drwy ebostio [email protected].

Mae ein nodau masnach wedi’u cofrestru

Mae Cyfranogaeth Cymru a Participation Cymru yn nodau masnach cofrestredig i FLVC. Ni chaniateir i chi eu defnyddio heb ein cymeradwyaeth, onid ydynt yn rhan o ddeunydd yr ydych yn ei ddefnyddio fel a ganiateir o dan Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefannau.

Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefannau

Oni nodir yn wahanol, ni yw perchennog neu drwyddedai pob hawl eiddo deallusol ar ein gwefannau, ac yn y deunydd a gyhoeddir arnynt. Gwarchodir y gweithiau hynny gan ddeddfau a chytuniadau hawlfraint o amgylch y byd. Cedwir pob hawl o’r fath. Ni chaniateir copïo nac ail drawsyrru logos, deunydd graffeg na delweddau ar wefan FLVC heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ac nid yw’r caniatâd a roddir isod yn ymestyn i ddyluniad na gosodiad ein gwefannau ac ni cheir eu copïo’n llawn nac yn rhannol.

Yn amodol ar yr eithriadau a nodir uchod, cewch argraffu fel copi caled, lawrlwytho i ddisg galed leol neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar ein gwefannau ar yr amod bod hynny at eich defnydd personol chi neu ar gael i eraill yn eich mudiad chi’n unig.

Caniateir i gopïau gael eu cyflenwi i drydydd parti ar yr amod eu bod at eu defnydd personol; na fyddant yn cael eu cyflenwi fel rhan o waith neu gyhoeddiad arall, ac na fyddant yn cael eu cyflenwi'n uniongyrchol yn gyfnewid am elw masnachol. Mae cyflenwi copi i drydydd parti yn amodol ar eu hysbysu o'r ffaith bod y telerau hyn yr un mor weithredol yn eu hachos hwythau.

Rhaid i chi beidio ag addasu’r copïau papur na digidol o ddeunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio delweddau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain neu unrhyw ddeunyddiau graffeg heb unrhyw destun sy’n mynd gyda nhw. Caniateir cyfieithu ar yr amod eich bod yn derbyn cyfrifoldeb llawn am gywirdeb y cyfieithiad.

Rhaid bob amser gydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron y cynnwys ar ein gwefannau. Rhaid cadw pob hysbysiad hawlfraint a pherchnogol yn gyflawn, a rhaid atgynhyrchu ein cyfeiriad a'n manylion cyswllt.

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu ein deunydd hawlfraint yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y gwefannau sydd wedi'i nodi fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniatâd uniongyrchol deiliad yr hawlfraint berthnasol i atgynhyrchu deunydd o'r fath.

Os ydych yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefannau yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefannau yn darfod ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi’u gwneud.

Byddem yn barod i ystyried ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio deunydd o’n gwefannau sydd y tu hwnt i delerau’r caniatâd a nodir uchod. Rhaid gwneud cais o’r fath yn ysgrifenedig ymlaen llaw a’i gyfeirio at [email protected].

Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar y gwefannau

Darperir y cynnwys ar ein gwefannau er gwybodaeth yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn  penderfynu gweithredu neu beidio â gweithredu ar sail y cynnwys ar ein gwefannau. Ni dderbyniwn gyfrifoldeb am wallau, hepgoriadau, datganiadau camarweiniol nac am ganlyniadau hynny.

Er ein bod yn ymdrechu’n rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefannau, nid ydym yn honni nac yn gwarantu, boed yn ddiamwys neu’n ymhlyg,  fod y cynnwys ar ein gwefannau yn gywir, yn gyflawn nac wedi’i ddiweddaru.

Nid yw cyfeiriad at unrhyw fudiad, cwmni neu unigolyn ar ein gwefannau, neu unrhyw wefannau eraill y mae dolen atynt, yn golygu ein bod yn cymeradwyo nac yn gwarantu eu henw da na’u gallu.

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau yr ydym yn darparu dolenni atynt

Pan fo ein gwefannau yn cynnwys dolenni at wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Nid yw darparu dolenni o’r fath yn golygu ein bod yn cymeradwyo gwefannau’r dolenni hynny nac unrhyw wybodaeth a gewch chi ohonynt.

Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau na’r adnoddau hynny.

Nid ydym yn cymeradwyo cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr

Gall ein gwefannau gynnwys gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythir gan ddefnyddwyr eraill o’r gwefannau. Nid ydym wedi gwirio na chymeradwyo’r wybodaeth na’r deunyddiau hyn ac ni dderbyniwn gyfrifoldeb am unrhyw wallau, hepgoriadau neu anghywirdeb mewn deunydd a gyflwynir. Nid yw’r farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein gwefannau yn cynrychioli ein barn na’n gwerthoedd ni.

Os hoffech gwyno ynghylch gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythir gan ddefnyddwyr eraill cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir ar dudalen 1 yn y telerau hyn.

Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddaw i’ch rhan chi

I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn gwrthod pob cyfrifoldeb am hawliau sy’n codi o ddefnydd o’n gwefannau, neu’n gysylltiedig â’u defnyddio, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) hawliau sy’n codi o oedi, toriad neu anallu i gael at y gwefannau a defnyddio unrhyw gynnwys ar ein gwefannau neu ddibynnu arno. Nid ydym yn gwrthod nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein cyfrifoldeb i chi pan fyddai gwneud hynny’n anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein cyflogeion, ein hasiantau neu ein his-gontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.

Lanlwytho cynnwys i’n gwefannau

Pryd bynnag rydych yn defnyddio nodwedd sy’n eich galluogi i lanlwytho cynnwys i’n gwefannau, neu i gysylltu â defnyddwyr eraill o’n gwefannau, rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o’r fath yn cydymffurfio â’r safonau hynny, a byddwch yn atebol i ni ac yn ein hindemnio os torrir y warant honno mewn unrhyw ffordd. Golyga hyn y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddaw i’n rhan ni o ganlyniad i dorri’ch gwarant.

Os ydych yn lanlwytho cynnwys i’n gwefannau, ystyriwn nad yw’r cynnwys hwn yn gyfrinachol a’i fod yn amherchnogol. Byddwch yn cadw’ch holl hawliau perchnogaeth i’ch cynnwys, ond bydd yn ofynnol i chi roi trwydded gyfyngedig i ni a defnyddwyr eraill o’n gwefannau i ddefnyddio, storio a chopïo’r cynnwys hwnnw ac i’w ddosbarthu a’i wneud ar gael i drydydd partïon.

Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu eich hunaniaeth i unrhyw drydydd parti sy’n hawlio bod unrhyw gynnwys a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych chi i’n gwefannau yn torri eu hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd.

Cadwn yr hawl i hepgor, atal neu olygu unrhyw ddeunydd a gyflwynir a dileu unrhyw beth rydych yn ei roi ar ein gwefannau os, yn ein barn ni, nad yw’ch cynnwys yn cydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

Chi, a chi yn unig, sy’n gyfrifol am ddiogelu’ch cynnwys a chreu copi wrth gefn ohono.

Nid ydym yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio â’u cyflwyno

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefannau yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau na feirysau.

Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan i gael at ein gwefannau. Dylech ddefnyddio’ch meddalwedd eich hun i warchod rhag feirysau.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefannau drwy gyflwyno feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod at ein gwefannau, y gweinyddion y mae ein gwefannau yn cael eu storio arnynt nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefannau. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefannau drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth nac ymosodiad gwrthod gwasanaeth wedi’i ddosbarthu. Os ydych yn torri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt hwy. Mewn achos o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefannau yn darfod ar unwaith.

Rheolau ynglŷn â darparu dolenni at ein gwefannau

Cewch greu dolenni at ein gwefannau ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig cyn creu’r ddolen a’ch bod yn darparu dolen at ein gwefannau mewn ffordd deg a chyfreithlon nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni pan nad yw hynny’n bodoli.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen at ein gwefannau ar unrhyw wefan nad ydych yn berchen arni.

Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd creu dolen yn ôl heb rybudd.

Rhaid i’r wefan sy’n cynnwys y ddolen gydymffurfio ym mhob agwedd â’r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

Deddfau pa wlad sy’n llywodraethu unrhyw anghydfodau?

Llywodraethir y telerau defnyddio hyn, eu cynnwys a’u ffurfiant (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliau digontract) gan gyfraith Cymru a Lloegr. Cytunwn ni’n dau i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.