Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân AM DDIM i Aelodau CGLlSFf
Er sylw Aelodau CGLlSFf.
Mewn partneriaeth â Groundwork, rydym ni’n cynnig hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân AM DDIM i aelodau llawn CGLlSFf.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn ennill yr wybodaeth hanfodol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i reoli diogelwch tân mewn unrhyw amgylchedd. Bydd yn cwmpasu mesurau atal tân, gweithdrefnau ymateb brys, a chyfrifoldebau cyfreithiol, gan sicrhau bod y rhai sy’n cymryd rhan wedi’u paratoi’n dda i gyflawni rôl marsial tân neu warden tân yn effeithiol.
Caiff y cwrs undydd hwn ei gynnal ddydd Mawrth, 30 Mehefin, o 9:30yb tan 2yp yn Canolfan Gymunedol Parkfields (What 3 words: breeze.intestine.peachy).
Nid oes gan y cymhwyster ddyddiad dod i ben ond bydd hyfforddiant gloywi a chadw’n gyfredol â newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau a deddfwriaeth newydd drwy DPP yn hanfodol.
Bydd paned ar gael o 9:15yb ymlaen a thrwy gydol y dydd.
Er mwyn sicrhau mynediad teg i bawb, gofynnwn yn garedig i bob sefydliad neu grŵp gadw un lle yn unig.
Dim ond nifer penodol o lefydd sydd ar gael – sicrhewch eich lle chi’n gynnar i osgoi unrhyw siom:
Nodwch: Mae cynnig hyfforddiant CGLlSFf wedi’i anelu at sefydliadau sy’n gweithredu yn Sir y Fflint ac fe gaiff aelod-sefydliadau CGLlSFf eu blaenoriaethu.
Ddim yn siŵr os ydych chi’n aelod o CGLlSFf?
Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://form.jotform.com/261174061448354 i gofrestru – bydd yn cymryd dim ond ychydig o funudau a gallwch fanteisio am ddim ar y buddion yma i aelodau yn unig.