Bu Cyngor Gweithredu Lleol Sir y Fflint yn gweithredu ers 1997 ac mae’n cyflawni swyddogaeth hanfodol ar draws y sir wrth helpu i gefnogi gwaith cannoedd o fudiadau gwirfoddol a chymunedol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau. Gan weithio yng Nghanolfan Corlan ym Mharc Busnes yr Wyddgrug, mae ein Prif Swyddog, Ann Woods, yn goruchwylio gwaith 14 o staff mewn tair adran ar wahân, ond rhynggysylltiedig:
Cyllid a Llywodraethiant – helpu mudiadau gwirfoddol i gynnal eu gweithgareddau yn broffesiynol a’u cynorthwyo i fanteisio ar gyllid sydd ei fawr angen gan amrywiaeth o raglenni cyllid.
Presgripsiynu Cymdeithasol – cydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn helpu pobl fregus a’r rhai mewn angen i gael cefnogaeth gan y sector gwirfoddol.
Gwirfoddol – helpu’r cyhoedd i ddechrau arni ym myd gwerth chweil dros ben gwaith gwirfoddol ac i gefnogi arfer da mewn swyddi gwirfoddoli.
Rôl Bwrdd Ymddiriedolwyr CGLlSFf yw cefnogi a diogelu gwaith CGLlSFf, cefnogi a monitro ei waith a gweithdrefnau, gan sicrhau cywirdeb ariannol a gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i gynghori ar gyfeiriad strategol y sefydliad. Daw ymddiriedolwyr o ystod o gefndiroedd, llawer gyda phrofiad yn y sector gwirfoddol, ond nid yw hyn yn orfodol. Rhan annatod o’n llwyddiant fel ymddiriedolwyr, yn ogystal â brwdfrydedd, yw ein bod yn dod ag ystod o safbwyntiau a sgiliau i’n gwaith.
Fel bwrdd llawn, rydym yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn (yn cynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) ond caiff yr holl ymddiriedolwyr eu hannog i fynychu digwyddiadau rhwydweithio CGLlSFf yn flynyddol er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o waith CGLlSFf. Yn ogystal â chyfarfodydd bwrdd llawn, gofynnwn fod yr holl ymddiriedolwyr yn ymuno ag un o’n is-bwyllgorau (yn dibynnu ar eich diddordeb a maes sgiliau) sydd hefyd yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn.
Y rhain yw:
- Yr Is-bwyllgor Personél
- Yr Is-bwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol.
Fel rhywun a ddaeth yn ymddiriedolydd dair blynedd yn ôl, gallaf dystio pa mor werth chweil yw’r gwaith yma. Mae ein Prif Swyddog yn arwain tîm ymroddedig o swyddogion CGLlSFf ac mae eu gwaith yn cael effaith wirioneddolol a pharhaus ar lawer o gymunedau Sir y Fflint. Mewn blynyddoedd diweddar, gwelsom ergyd ddwbl epidemig Covid a’r argyfwng ‘costau byw’ ac fel canlyniad, ni fu gwaith y sector gwirfoddol erioed yn bwysicach wrth helpu pobl Sir y Fflint i ffynnu. Mae’r ymdeimlad o gydweithio a diben yn ein grŵp clos o ymddiriedolwyr yn hynod ond gwyddom fod eraill allan yno y gallai eu harbenigedd ac ymroddiad sicrhau ein bod hyd yn oed yn fwy effeithlon. Felly os yw’r pamffled yma wedi ennyn eich diddordeb, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Peter Agnew, Cadeirydd