Hyfforddiant Diogelu (Grŵp B) AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf

Aelodau CGLlSFf!

Mewn partneriaeth gyda Groundwork, rydym yn cynnig hyfforddiant diogelu grŵp B AM DDIM i aelodau llawn CGLlSFf.

Dyddiad: Dydd Gwener, Gorffennaf 17 2026

Amser: 9:30 YB – 2:30 YP

 

Pwrpas diogelu yw amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac addysgu rhai sydd o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.

Bydd yr hyfforddiant hanfodol hwn yn helpu chi i ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni eich cyfrifoldebau diogelu.

Mae’r holl wybodaeth am y safonau newydd a’r grwpiau ar gael ar y wefan yma.

Ymarferwyr grŵp B yw’r rhai sy’ treillio amser gyda phobl mewn grŵp neu ar sail un i un.

Bydd ganddynt gyfrifoldeb penodol mewn perthynas â’r bobl y maent yn gweithio a bydd angen lefel uwch o wybodaeth na’r rhai yng ngrŵp A oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol â phobl.

Mae’r Cwrs yn Cynnwys (bydd hefyd yn cyfeirio at bolisïau a gweithdrefnau penodol Gogledd Cymru)

  • Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol mewn perthynas â diogelu.
  • Mathau/Ffurfiau o gam-drin a sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag cam-drin, niwed ac esgeulustod.
  • Y ffactorau, y sefyllfaoedd a’r camau gweithredu a allai arwain at gam-drin, niwed neu esgeulustod neu gyfrannu atynt, ac arwyddion a dangosyddion.
  • Sut i adrodd, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy’n ymwneud â diogelu.

Lleoliad: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Ffordd Caer, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SA

Gofynnwn yn garedig i’r rheiny sy’n cymryd rhan i gyrraedd erbyn 9:15 YB at gyfer cofrestriad, er mwyn cychwyn yn brydlon am 9.30 YB. Rydym yn disgwyl i’r hyfforddiant dod i ben am 2:30 YP.

Bydd lluniaeth ar gael o’r caffi ar y safle.

I sicrhau mynediad deg i bawb, gofynnwn yn garedig i bob sefydliad neu grŵp archebu dim ond un lle.

Linc: https://www.eventbrite.co.uk/e/1991974357927?aff=oddtdtcreator

Nodyn: Mae cynnig hyfforddiant CGLlSFf wedi ei dargedu at sefydliadau sy’n gweithio o fewn Sir y Fflint a rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sy’n aelodau o CGLlSFf.

 

Ddim yn siŵr os ydych chi’n aelod o CGLlSFf?

Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://form.jotform.com/261174061448354 i gofrestru – bydd yn cymryd dim ond ychydig o funudau a gallwch fanteisio am ddim ar y buddion yma i aelodau yn unig.