Ffair Ariannu CGLlSFf

Hoffech gysylltu â nifer o gyllidwyr? Eisiau trafod eich prosiectau a’ch cynigion?

Ymunwch â ni ar ddydd Iau, Hydref 15, ar gyfer Ffair Ariannu CGLlSFf.

Amser: Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10:00 YB a 2:00 YP

Lleoliad: Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru, Rowley’s Drive, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 1PY.

what3words: ///resonates.brass.oils

Bydd amrywiaeth o gyllidwyr yn bresennol, gan gynnwys:

  • Cadwyn Clwyd
  • CGGC – Cronfa Ynni Glân
  • Chwaraeon Cymru
  • Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cyngor Sir y Fflint – Adfywio Canol Trefi
  • EGIN / CYD Cymru
  • Sported
  • Tesco – Grantiau Ffrwythau a Llysiau / Groundwork UK
  • Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned

Ewch i dudalen Facebook y digwyddiad am fwy o wybodaeth:

https://fb.me/e/6U3LI3wks