Rhwydwaith Rheolwyr Gwirfoddolwyr – Sir Ddinbych a Sir y Fflint
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Rheolwyr Gwirfoddolwyr a Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, mae CGLlSFf a CGGSDd yn falch iawn o’ch gwahodd i’n Rhwydwaith Rheolwyr Gwirfoddolwyr.
Dyddiad: Dydd Mercher, Tachwedd 11 2026
Lleoliad: Neuadd Masonic Penarlâg, Glannau Dyfrdwy, Sir Fflint, CH5 3HE
Amser: 11 YB – 1 YP
Mae hon yn gyfle gwych i bobl sy’n ymwneud â gwirfoddoli ar draws y Trydydd Sector i ddod at ei gilydd yn bersonol, cysylltu â chydweithwyr, rhannu profiadau a darganfod syniadau a dulliau newydd o gefnogi gwirfoddolwyr.
Beth fyddwn ni’n ei drafod?
Bydd y sesiwn yn archwilio amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol i reolwyr a chydlynwyr gwirfoddolwyr, gan gynnwys:
- Arferion gorau wrth reoli gwirfoddolwyr
- Y Dull Newydd o Wirfoddoli
- Newidiadau diweddar i drefniadau diogelu
- Lles gwirfoddolwyr
P’un a ydych yn Rheolwr Gwirfoddolwyr profiadol, yn cydlynu gwirfoddolwyr fel rhan o’ch rôl, neu’n awyddus i ddatblygu dull eich sefydliad o ran gwirfoddoli, cewch gyfle i ddysgu, rhannu a rhwydweithio ag eraill sy’n gweithio ar draws y sector.
Pwy all ddod?
Mae’r digwyddiad yn agored i bob sefydliad yn y Trydydd Sector yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Dewch draw, cyfarfod â sefydliadau eraill, cyfnewid syniadau a helpu i lunio dyfodol gwirfoddoli ar draws ein cymunedau.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Cliciwch yma i archebu eich lle
Ddim yn gallu mynychu’r sesiwn yma?
Mae sesiwn arall yn digwydd yn Ganolfan Ask yn Rhyl ar ddydd Gwener 13 Tachwedd 2026.