Wythnos Profiad Prentisiaeth

Mae’r Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol (NAW) wythnos nesaf! Rhwng Chwefror 5 i’r 11 bydd unigolion, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chymunedau yn tynnu sylw ac yn dathlu llwyddiannau prentisiaid ar draws Prydain ac yn annog pobl i ystyried sut y gall prentisiaethau helpu i ddarparu #SkillsForLife.

Dyma ein prentis Gweinyddu Busnes yn rhannu eu profiad.

“Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda’r FLVC ar ddechrau mis Ionawr fel Gweinyddwr Busnes ac rydw i’n mwynhau’r profiad yn fawr. Rydw i’n cael dysgu a chael profiadau gwahanol wrth i mi weithio sy’n gwella fy nealltwriaeth o’r swydd a’r gweithle. Mae fy nghydweithwyr yn garedig, gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Maent yn deall fy anghenion ac yn galonogol iawn.

Mae’r brentisiaeth yma yn gyfle gwych i mi. Mae’r gallu i ddysgu ac ennill cymhwyster fel hyn yn addas iawn i mi. Mae’r brentisiaeth yn helpu mi i adeiladu fy hyder a hunan-barch ac rydw i’n gwneud pethau yn barod nad oeddwn i’n meddwl y gallwn i. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn y bydd yn ei gynnig imi.”

www.apprenticeships.gov.uk.

Apprenticeships | Careers Wales (gov.wales)