Cymhorthfa Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Ydych chi’n chwilio am arian ar gyfer gweithgaredd cymunedol? Ydych chi’n ystyried gwneud cais am Grant Cymunedol y Loteri Genedlaethol? Mae eu rhaglenni grant yn cynnwys:
• Arian i Bawb Rhaglen grantiau bach syml sy’n dyfarnu rhwng £300 a £20,000
• Grantiau Canolig Pawb a’i Le a – Grantiau mawr sy’n ceisio dod â phobl at ei gilydd i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig neu drefol.
Hoffech chi gael y cyfle i drafod eich syniadau gyda Swyddog Loteri cyn i chi wneud cais? Os felly, nawr yw eich cyfle.
Mae FLVC yn cynnal Cymhorthfa gyda Swyddog Loteri yn ein swyddfa yng Nghorlan, Yr Wyddgrug, ddydd Mercher 27 Mawrth 2024
Mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau ar gael i drafod ceisiadau grant posibl.
Archebu eich apwyntiad yma https://form.jotform.com/230462753410044