CGLlSFf yn cynnal digwyddiad cyntaf Fforwm Sector Gwirfoddol Sir y Fflint

Ym mis Hydref 2026, bu i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint gynnal ei Fforwm Sector Gwirfoddol cyntaf, gyda’u Cyfarfod Blynyddol yn rhan ohono hefyd, er mwyn annog mwy o sgyrsiau rhwng mudiadau gwirfoddol a chymunedol a chynnig gwybodaeth ar faterion sydd o bwys iddyn nhw.  

 I gychwyn y digwyddiad, aeth yr unigolion presennol ati i gymryd rhan mewn sesiwn ddifyr ac sy’n ysgogi’r meddwl gyda Dr Jackie Le Fevre, arbenigwr adnabyddus mewn gwerthoedd sydd â phrofiad helaeth mewn dulliau sy’n seiliedig ar werthoedd, datblygu sefydliadol, ac ymchwil gofal cymdeithasol. Mae ei gwaith yn pwysleisio rhoi gwerthoedd ar waith yn ymarferol i hybu lles, perfformiad, a pherthnasoedd rhyngbersonol. Dywedodd un a fynychodd: “Fe wnaeth y sgwrs fy ysgogi i feddwl am fy ngwerthoedd a sut i hyrwyddo gwerthoedd fy mudiad ymhlith fy nhîm.”   

Yna bu i’r fforwm gynnig cyfle i’r rheiny oedd yn bresennol roi cynnig ar ddewis o weithdai ar themâu cyllid cynaliadwy, cynnig tystiolaeth o effaith a gwirfoddoli, cyn y sesiwn Cyfarfod Blynyddol, cinio a chyfleoedd rhwydweithio.  

Estynnodd y Prif Swyddog, Ann Woods ddiolch i bawb am gymryd rhan “roedd yn gyfle gwerth chweil i gwrdd â’n haelodau a’n cydweithwyr i fwrw golwg ar rai o’r heriau allweddol y mae’r sector gwirfoddol a chymunedol yn eu hwynebu, ac ymchwilio cyfleoedd inni ddatblygu ar y cyd.”   

Bu i’r rheiny wnaeth gymryd rhan gynnig adborth cadarnhaol dros ben am y digwyddiad newydd hwn, ac o ganlyniad mae CGLlSFf bellach yn bwriadu iddo ddod yn rhan reolaidd o galendrau grwpiau gwirfoddol Sir y Fflint. “Mae’r ‘dirwedd’ ar gyfer y sector gwirfoddol yn newid yn gyson, felly mae digwyddiadau rheolaidd yn gymorth inni ddysgu am yr wybodaeth hanfodol gyfredol.”