CGLlSFf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam

Cafodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint fodd i fyw yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.
Yn garedig iawn, estynnodd CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) ac AVOW (Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam) wahoddiad i’n staff ymuno gyda nhw yn yr Hwb Sector Gwirfoddol am yr wythnos.
Roedd yr Hwb Sector Gwirfoddol yn llawn prysurdeb yn ystod yr wythnos. Roedd yn gyfle i’r cyhoedd gwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector sy’n cyflawni gwaith gwych ledled Wrecsam a’r siroedd cyfagos. At hyn, roedd yn gyfle i’n staff rwydweithio gyda grwpiau trydydd sector eraill, cryfhau ein partneriaethau a chreu cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.
Wrth gwrs mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad diwylliannol sylweddol ar gyfer trigolion Cymru, a braint o’r mwyaf oedd bod yn rhan ohono. Roedd ein staff Cymraeg eu hiaith wrth eu bodd a bu inni gyd fwynhau’r cyfle i glodfori’r iaith Gymraeg.
Diolch i CGGC ac AVOW am ein gwahodd! Hoffem hefyd ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol am eu holl waith caled drwy gydol yr wythnos.
Diolch yn fawr!