Cinio a Dysgu: Gweledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli yng Nghymru

Ymunwch gyda ni i archwilio’r Weledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli yng Nghymru

 

Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2026

Amser: 1:30 YP – 2:30 YP

Ar-lein trwy Microsoft Teams

 

Mae CGLlSFf, CGGSDd ac AVOW yn cynnal sesiwn Cinio a Dysgu anffurfiol ar gyfer rheolwyr gwirfoddoli, cydlynwyr a mudiadau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr.

Mae’r Weledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli yng Nghymru yn nodi uchelgais ar y cyd ar gyfer creu profiadau gwirfoddoli cadarnhaol, cynhwysol a gwerth chweil.

Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall beth mae’r Weledigaeth hon yn ei olygu yn ymarferol, sut y gall gefnogi eich rhaglen wirfoddoli, a’r rôl y gall mudiadau ei chwarae wrth lywio dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru.

P’un a ydych chi’n awyddus i gynyddu’r nifer o wirfoddolwyr rydych chi’n eu recriwtio, gwella’r nifer o wirfoddolwyr rydych chi’n eu cadw, gwella profiadau gwirfoddolwyr neu baratoi ar gyfer datblygiadau yn y sector yn y dyfodol, mae hwn yn gyfle i ddysgu, rhannu syniadau, a gofyn cwestiynau.

Bydd eich Canolfan Wirfoddoli leol wrth law i gynnig arweiniad, adnoddau a chymorth wrth i’r Weledigaeth gael ei chyflwyno ledled Cymru.

Dewch draw, cysylltwch gyda chyfoedion, a helpwch i lywio dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru.

Cliciwch yma i sicrhau eich lle.