Cwrs Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith AM DDIM ar gyfer Aelodau CGLlSFf
Mewn partneriaeth gyda Groundwork, rydym yn cynnig hyfforddiant Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith AM DDIM i aelodau llawn CGLlSFf.
Dyddiad: Dydd Llun, Medi 21 2026
Amser: 9:30 YB – 2:30 YP
Lleoliad: Neuadd Bentref Treuddyn, Queen Street, Treuddyn CH7 4LU
Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu Gweithwyr Cymorth Cyntaf Brys ar gyfer eich sefydliad a allai drin unrhyw glwyfedigion yn brydlon ac mewn modd diogel ac effeithiol.
Mae’r hyfforddiant hwn yn gymhwyster wedi’i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n para am dair blynedd.
Bydd lluniaeth ar gael o 9.15yb. Ni fyddwn yn darparu cinio ar y cwrs rhad ac am ddim hwn. Dewch a chinio gyda chi os gwelwch yn dda.
I sicrhau mynediad deg i bawb, gofynnwn yn garedig i bob sefydliad neu grŵp archebu dim ond un lle.
Nodyn: Mae cynnig hyfforddiant CGLlSFf wedi ei dargedu at sefydliadau sy’n gweithio o fewn Sir y Fflint a rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sy’n aelodau o CGLlSFf.
Ddim yn siŵr os ydych chi’n aelod o CGLlSFf?
Ffoniwch ni heddiw ar 01352 744000. Neu ewch i https://www.flvc.org.uk/cy/newyddion/aelodaeth/ i gofrestru – bydd yn cymryd dim ond ychydig o funudau a gallwch fanteisio am ddim ar y buddion yma i aelodau yn unig.