Grantiau Cyfredol

grantiau cyfredol

Funding

 

I dderbyn y newyddion diweddaraf am ein cronfeydd grant, tanysgrifiwch yma.

 

Grantiau Cist Gymunedol Sir y Fflint 25/26 

Mae Grantiau Cist Gymunedol Sir y Fflint ar gael i gefnogi gweithgarwch cymunedol.

Mae’r gronfa yn darparu grantiau ar gyfer gefnogi gweithgareddau cymunedol yn Sir Y Fflint, gyda blaenoriaeth ar gyfer sefydliadau lleol llai. Yn ddiweddar, mae grantiau wedi cael eu dyfarnu ar gyfer offer garddio, offer chwaraeon, atgyweirio adeiladau, diffibrilwyr a marchnata ar gyfer gweithgareddau newydd.

Mae ceisiadau yn cael ei dderbyn yn bellach gan sefydliadau sydd o fudd i bobl o Sir y Fflint ar gyfer prosiectau sy’n dilyn y themâu canlynol:

  • Prosiectau cyfalaf bach, er enghraifft, atgyweirio adeiladau a diweddaru gosodiadau a nodweddion mewnol.
  • Offer ond nid nwyddau traul*
  • Digwyddiadau cymunedol unwaith.
  • Cyhoeddusrwydd /marchnata.
  • Hyfforddiant a digwyddiadau/cyrsiau ymwybyddiaeth.
  • Yn ymateb i a/neu adfer o sefyllfa argyfyngol genedlaethol, rhanbarthol neu leol.

Mae grantiau ar gael hyd at uchafswm o £1,000, ond fyddant yn ariannu 75% o gyfanswm y gost yn unig, felly mae cyllid cyfatebol yn hanfodol. Sylwch, gellir dyrannu'r swm mwyaf o £1,000 dim ond unwaith mewn cyfnod o 2 flynedd.

Y dyddiau cau ar gyfer Rownd 1 yw Gorffennaf 6 2025.

I wybod mwy neu am gyngor neu gefnogaeth, cysylltwch gyda Heather Hicks ar Ffôn: 01352 744000, neu e-bost: 

[email protected]

gwneud cais ar-lein

Guidance Notes - Community Chest 2025-26

 

Grantiau a Arweinir Gan Ieuenctid FLVC

Mae grantiau gwerth £250, £500, £750 a £1,000 ar gael i bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a arweinir gan yr ieuenctid.

Mae’n rhaid defnyddio’r grant ar gyfer gweithgaredd gwirfoddol mewn prosiect a arweinir gan yr ieuenctid yn Sir y Fflint. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gysylltiedig fod rhwng 14-25 oed. Gall y prosiectau redeg tan 30 Mai 2025.

Hyd heddiw mae llawer o brosiectau gwahanol wedi’u hariannu ac rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cefnogi un neu fwy o nodau canlynol ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)’:

1.     Cymru lewyrchus - trechu tlodi a gwella cyfleoedd bywyd
2.     Cymru gydnerth - paratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol
3.     Cymru sy’n fwy cyfartal - rhoi cyfle cyfartal i bawb beth bynnag fo’u cefndir
4.     Gymru Iachach -  annog ffyrdd iach o fyw
5.     Gymru o Gymunedau Cydlynys -  helpu i greu cymunedau hapusach
6.     Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - creu cyfleoedd yng Nghymru a dathlu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig
7.     Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang - edrych ar ôl yr amgylchedd ac ystyried eraill

Dylai prosiectau hefyd ystyried pa mor gynaliadwy ydyn nhw; sut allan nhw gynnwys y bobl rheiny maen nhw’n ceisio eu helpu yn eu prosiect ac a ydyn nhw’n gallu cysylltu gydag unrhyw brosiectau tebyg yn yr ardal.

Os oes arnoch chi angen ffurflen gais neu unrhyw gyngor neu gymorth gyda llenwi’r ffurflen, cysylltwch: E-bost: [email protected]  Ffôn: 01352 744000.

Gwnewch gais ar-lein

Nodiadau Canllawiau 25 -26. Grantiau a Arweinir Gan Ieuenctid

Ffurflen Cais 25-26 Grantiau a Arweinir Gan Ieuenctid

 

 

 

Micro Grantiau Cronfa Gymunedol Gwynt Y Môr

Mae Fferm Wynt Gwynt y Môr, oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yn cynnig cyllid i gymunedau yn ardaloedd arfordirol Gogledd Sir y Fflint, Gogledd Conwy a Gogledd Sir Ddinbych. Gallai grwpiau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a chynghorau cymuned geisio am grantiau ar gyfer prosiectau cyfalaf a refeniw. Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng llwyddiant a methiant, goroesi neu derfynu. Mae’r rhaglen micro grantiau hon sy’n cynnig hyd at £1,000.00 wedi’i dargedu’n bennaf tuag at grwpiau cymunedol llai sy’n dymuno prynu cyfarpar angenrheidiol, uned newydd neu sy’n chwilio am fymryn o gymorth ariannol i roi eu menter ar waith.

Bydd y mudiadau cymwys ymhen radiws 5 milltir o arfordir Gogledd Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy. Dyma’r ardaloedd sy’n gymwys yn Sir y Fflint: Gronant, Talacre, Gwespyr, Ffynnongroyw a Phenyffordd (Gogledd Sir y Fflint), Llanasa, Trelawnyd, Trelogan, Mostyn, Chwitffordd a Downing. Bwrw golwg ar fap o’r ardaloedd cymwys: https://cvsc.org.uk/en/funding/gwynt-y-mor-community-fund

Guidance notes
Nodiadau Canllawiaw

Os ydych chi’n ansicr, mae croeso ichi gysylltu gyda ni am sgwrs neu gyngor. [email protected] neu 01352 744004

Mae gan Gronfa Gymunedol Gwynt-y-Môr raglen Prif Grantiau’n ogystal, sydd o dan ofal CVSC. Mae gan y brif gronfa dair nod, sef:

  • Datblygu cymunedau cryf, cydlynol a chynaliadwy
  • Meithrin cymunedau llewyrchus a mentrus gyda thwf economaidd cadarn
  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau

Gallwch gyflwyno ceisiadau am grantiau bach, o hyd at £10,000 unrhyw bryd. Bydd Gwynt y Môr ond yn dwyn i ystyriaeth grantiau sylweddol, hyd at £50,000 pob blwyddyn a’r dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau ydy Mawrth y 1af.

Mae map o’r ardaloedd daearyddol cymwys ar y wefan, ac mae gwybodaeth ychwanegol ar http://cvsc.org.uk/en/gwynt-y-mor/

Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint – Rownd 2 ar agor ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb erbyn Chwefror 15 (Ar Gau)

 

Mae FLVC a Chadwyn Clwyd yn falch i gyhoeddi bod 2il Rownd Cronfa Allweddol Cymunedau Ffyniannus Sir y Fflint bellach ar agor ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb. Mae’r gronfa’n darparu cymorth ar gyfer lleoliadau/cyfleusterau/mannau/grwpiau sydd o dan arweiniad y gymuned a/neu sy’n berchen i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith cymunedol a phrosiectau cymunedol (mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cadwyn Clwyd yma).

Gall y gronfa gefnogi:

  • Grantiau Datblygu Cyn Prosiect rhwng £2,000 a £10,000 ar gyfer cymorth ymgynghorol ac astudiaethau dichonoldeb.
  • Grantiau prosiectau cymorth cymunedol rhwng £10,000 a £50,000.

Bydd y gronfa'n gweithredu ar sail dreigl tan fydd yr holl gyllid wedi'i ddyrannu i brosiectau. Er mwyn cynnig eich prosiect ar gyfer yr ail gyfarfod panel, y dyddiad cau Mynegi diddordeb yw dydd Gwener Chwefror 15 2024. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan Cadwyn Clwyd yma.

Sylwch ei bod yn amod bod rhaid gwario pob grant a chwblhau prosiectau erbyn Medi 30 2024.

Mae meini prawf clir a chanlyniadau diffiniedig ar gyfer y cyllid hwn, felly wnewch yn siŵr eich bod yn darllen trwy'r nodiadau canllaw yn ofalus. Os hoffech siarad â rhywun am eich prosiect cyn i chi gyflwyno mynegiant o ddiddordeb, cysylltwch â: [email protected] neu ffoniwch 01352 744000.