Cyfeirlyfr Dewis
Cyfeirlyfr Dewis
Cofrestrwch eich gwasanaeth
Mae’r cyfeirlyfr Dewis yn ffynhonnell gwybodaeth ynghylch gwasanaethau a gweithgareddau iechyd, gofal cymdeithasol a lles yng Nghymru.
Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, gallwch chi ychwanegu’ch manylion chi at Dewis Cymru, er mwyn i bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi ddod o hyd i chi’n haws. Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach ydych chi, neu ai gwirfoddolwyr ydych chi - os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, mae Dewis Cymru eisiau gwybod amdanoch chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud, er mwyn i ni gyfeirio pobl i gysylltu â chi!
Ychwanegu manylion eich gwasanaeth chi at Dewis Cymru
Nodwch fod gan Infoengine a Dewis gytundeb rhannu gwybodaeth ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, felly gallwch chi ymuno â un cyfeiriadur a thiciwch flwch i ymddangos yn awtomatig ar y llall hefyd.
Chwilio'r cyfeiriadur
Dewis Cymru yw y man ar gyfer gwybodaeth lles yng Ngymru. Dywed pobl wrthym nad yw’n hawdd i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir, ar yr adeg gywir, ac wedi ei chyflwyno yn y ffordd iawn. Amcan gwefan Dewis Cymru fydd eich cynorthwyo drwy ddarparu gwybodaeth o safon o rwydwaith o sefydliadau gofal cymdeithasol, iechyd a chymdeithasau o’r trydydd sector ar draws Cymru. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich lles cyffredinol - efallai eich bod yn ei chael yn anodd byw yn annibynnol gartref neu nad yw’ch llety yn addas i’ch anghenion chi ragor - mae Dewis Cymru yma i’ch helpu chi, eich teulu a’ch gofalwyr i gael mynediad i wybodaeth.