Fforwm Sector Gwirfoddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CGLlSFf
Rydym yn eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Fforwm Sector Gwirfoddol Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.
Cynhelir ein Fforwm Sector Gwirfoddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Mercher, Hydref 14 2026.
Bydd y digwyddiad yn rhedeg rhwng 9.30yb i 1.00yp yn Neuadd Goffa Sychdyn (CH7 6EA) a bydd yn cynnwys gweithdai ar Wirfoddoli, Cyllid Cynaliadwy a Mesur Effaith.
Cynnwys y gweithdai yw:
- Yn addas-ar-gyfer-cyllido yn Sir y Fflint
Ydych chi’n newydd i ysgrifennu ceisiadau cyllid, neu angen ail-edrych ar beth sy’n gwneud ceisiadau cryf. Os felly, mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol i chi.
- Dull gweithredu newydd o wirfoddoli yng Nghymru
Mae dull gweithredu newydd o wirfoddoli yng Nghymru mewn datblygiad. Os yw eich rôl yn golygu recriwtio, cadw neu reoli gwirfoddolwyr, ymunwch â ni yn y gweithdy hwn i’n helpu ni i ddylanwadu ar ddyfodol gwirfoddoli yn Sir y Fflint.
- Mesur eich effaith
Bydd y gweithdy yn edrych ar wahanol ffyrdd o werthuso’r effaith mae eich grŵp yn cael ar ei ddefnyddwyr, aelodau a’r gymuned eang. Yn fwy aml, mae grwpiau gwirfoddol yn cael ei gofyn i brofi’r gwahaniaeth maen nhw’n wneud – dewch i weld system sy’n cael ei ddefnyddio yn Sir y Fflint a dysgwch sut i’w ddefnyddio yn eich sefydliad.
Clywed gan siaradwr gwadd, cymryd rhan mewn gweithdai, rhwydweithio gyda chydweithwyr, a rhannu syniadau.
Bydd cinio hefyd ar gael.
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen isod cyn Hydref 7.