Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2025

Yr enwebiadau ar agor nawr ar gyfer Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2025

Mae proses enwebu Gwobrau’r Uchel Siryf ar gyfer 2025 ar agor bellach. Enwebwch rywun arbennig sy’n gwneud pethau gwych yma yng Sir y Fflint!

Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2013, yn cydnabod unigolion a grwpiau cymunedol sydd ag amcanion elusennol ac sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol yn eu cymunedau. Dros y blynyddoedd mae gwirfoddolwyr a grwpiau di-ri wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.

Mae tair gwobr yn cael eu rhoi ar gyfer pob un o’r siroedd sy’n ffurfio’r hen Sir Clwyd: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam:

  • Dwy wobr am gyfraniad eithriadol gan unigolyn
  • Un wobr am gyfraniad eithriadol gan grŵp gwirfoddol neu gymunedol sydd ag amcanion elusennol

Mae posib lawrlwytho ffurflenni enwebu a nodiadau canllaw oddi ar wefan Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC).

High_Sheriff_of_Clwyd_Nomination_Form_2025_CYM

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau wedi’u llofnodi yw hanner dydd, ddydd Gwener 17 Ionawr 2025. Dylid anfon pob enwebiad, o bob un o’r siroedd, i Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC) ar [email protected]

Bydd eu gwobrau yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn seremoni gydnabod arbennig a fydd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Mawrth 2025