Hyfforddiant Diogelu (Grŵp C) CGLlSFf
Mae’n bleser gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint gynnig Hyfforddiant Diogelu Grŵp C, wedi’i gynnal gan Groundwork Gogledd Cymru, ar Hydref yr 20fed a’r 21ain.
Mae’r cwrs yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd angen hyfforddiant diogelu Grŵp C fel rhan o’u rôl, gan ddarparu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd ei angen i gydnabod ac ymateb yn briodol i bryderon o ran diogelu.
Nod diogelu ydy amddiffyn plant ac oedolion rhag cam-drin neu esgeulustod ac addysgu’r rheiny o’u cwmpas i gydnabod yr arwyddion a’r peryglon.
Ymarferwyr Grŵp C ydy’r rheiny sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelu pobl:
- sydd â rôl asesu sy’n gysylltiedig â’r broses ddiogelu a / neu
- sy’n gweithredu ar lefel lle gallan nhw gynnig cyngor am ddiogelu i’r rheiny sydd yng ngrŵp A a grŵp B a / neu
- mewn sefydliad maen nhw’n gweithio ynddo neu’n ei reoli a / neu
- y maen nhw’n treulio llawer o amser heb oruchwyliaeth gyda nhw a gallai fod pryderon diogelu.
Hefyd, mae ymarferwyr Grŵp C yn cynnwys person diogelu dynodedig mudiad a phobl sy’n ymgymryd â rôl fwy amlwg o ran penderfyniadau diogelu, gan gynnwys y rheiny sydd â rôl weithredol mewn grwpiau craidd a gyda gweithgareddau cynllunio diogelu.
Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw ran o’r wybodaeth uchod neu am weithredu polisi diogelu, cysylltwch gyda CGLlSFf.
Pwysig – Gofyniad y Cwrs
Mae’n rhaid i’r mynychwyr fod wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu Grŵp B cyn mynychu’r cwrs Grŵp C hwn. Gofalwch eich bod wedi cwblhau’r hyfforddiant Grŵp B angenrheidiol cyn cadw lle os gwelwch yn dda.
Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sy’n ymwneud â’r safonau a’r grwpiau yma.
Bydd y cwrs deuddydd hwn ar ddydd Mawrth, Hydref yr 20fed, a dydd Mercher, Hydref yr 21ain.
Sylwch: Mae hwn yn gwrs deuddydd, a bydd yn rhaid i’r rheiny sy’n cymryd rhan fynychu’r ddau ddiwrnod.
Amser: 9:30 YB – 2:30 YP (Cyrhaeddwch erbyn 9:15 AM i gofrestru os gwelwch yn dda)
Lleoliad: Neuadd y Cadetiaid Môr Cei Connah, Ffordd y Doc, Cei Connah, CH5 4DS (what3words ///hung.breeze.various
Bydd te a choffi ar gael drwy gydol yr hyfforddiant. Ni fyddwn yn darparu cinio, felly mae gofyn i’r mynychwyr ddod â’u cinio eu hunain ar y ddau ddiwrnod.
Cost y Cwrs
Fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi’r sector gwirfoddol a chymunedol, mae CGLlSFf yn cynnig y cwrs hwn am gyfradd ostyngol i aelodau.
Aelodau CGLlSFf – £50 y pen
Rhai nad ydyn nhw’n aelodau – £75 y pen
Archebu a Thalu
Fe ddylech chi archebu drwy Eventbrite. Yn dilyn archebu, byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i Delerau ac Amodau Hyfforddiant CGLlSFf.
Yna bydd CGLlSFf yn gwirio statws aelodaeth eich mudiad ac yn cadarnhau ffi briodol y cwrs. Byddwn yn cyflwyno anfoneb yn dilyn y cadarnhad hwn.
Os nad ydy eich mudiad yn aelod o CGLlSFf ar hyn o bryd, bydd cyfle ichi ymgeisio i ymaelodi. Gallwn ddarparu gwybodaeth bellach am aelodaeth, a byddwn yn cadarnhau’r gyfradd berthnasol ar gyfer y cwrs cyn y byddwn yn cyflwyno’ch anfoneb.
Rhaid inni dderbyn taliad cyn i’r hyfforddiant gael ei gynnal.
Does dim ond lle i hyn a hyn ac mae angen archebu ymlaen llaw.
Efallai y byddwn yn codi ffi am ganslo ac absenoldeb. Gwelwch Delerau ac Amodau Hyfforddiant llawn CGLlSFf i wybod mwy:
https://drive.google.com/file/d/1ufJE9aXqfPbj9wN2a_KZWpWZF8d0-HV7/view?usp=sharing