Hysbysiad Preifatrwydd Digwyddiadau Rhwydwaith Lles Gogledd Ddwyrain Cymru

Sut byddwn yn defnyddio’ch manylion

Bydd angen eich enw, mudiad a chyfeiriad e-bost arnom ni i fedru cofrestru i fynychu ein Digwyddiad Rhwydweithio. Byddwn yn defnyddio’r manylion i anfon (drwy e-bost) cyfarwyddiadau pellach neu fanylion, unrhyw ddigwyddiadau wedi eu canslo neu unrhyw hysbysiadau eraill cyn digwyddiad. Hefyd byddwn yn anfon y cofnodion, cyflwyniadau ac unrhyw wybodaeth bellach yn dilyn digwyddiad.

Hoffem anfon eich enw a chyfeiriad e-bost mewn dogfen Word ar gofnodion y Digwyddiad Rhwydweithio i bawb oedd yn bresennol er mwyn helpu hwyluso rhwydweithio yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hyn ymhob Digwyddiad Rhwydweithio. Yna bydd modd i unrhyw un fu’n bresennol gadw’r wybodaeth ond bydd Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn eu hatal rhag rhannu’ch manylion gyda phobl eraill heb eich caniatâd chi.

Hoffem dynnu lluniau mewn Digwyddiadau Rhwydweithio i’w cyflwyno ar ein gwefannau (FLVC ac AVOW), cyfryngau cymdeithasol a deunydd marchnata ar bapur fel newyddlenni, adroddiadau blynyddol a thaflenni. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd ynghylch hyn ymhob Digwyddiad Rhwydweithio.

Datgelu eich gwybodaeth bersonol i fudiadau trydydd parti

Os byddwn yn dymuno defnyddio’ch data personol er diben newydd, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i fedru defnyddio’ch data er y diben newydd.

Ni fyddwn yn datgelu’ch data personol i fudiadau neu unigolion eraill. Pan fyddwn yn dymuno datgelu’ch data personol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd yn ysgrifenedig i’w ddatgelu.

Sut byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch chi

Caiff yr wybodaeth y byddwch chi’n ei gyflwyno ei gadw gan drefnwyr y cyfarfod (gweithwyr FLVC ac AVOW). Caiff ei gadw ar gronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) diogel yn y cwmwl. Mae hyn yn adnodd ar y cyd rhwng WCVA a’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs).

Mae protocol llym, mewn Memorandwm Dealltwriaeth, er mwyn gofalu caiff eich gwybodaeth ond ei weld a’i ddefnyddio gan WCVA neu Gynghorau Gwirfoddol Sirol yr ydych yn gysylltiedig gyda nhw eisoes. Neu hefyd gan fudiadau rydych wedi caniatáu iddyn nhw gyfathrebu gyda chi, neu fudiad sydd â diddordeb cyfiawn mewn defnyddio’ch gwybodaeth. I wybod mwy, gwelwch y Polisi Preifatrwydd TSSW

Bwrw golwg ar eich gwybodaeth a’i gywiro

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch chi, cysylltwch gyda [email protected] neu [email protected]