Hysbysiad Preifatrwydd E-fwletinau Rhwydwaith Lles Gogledd Ddwyrain Cymru (Cyfrannwr)

Byddwn yn tybio y bydd person sy’n gofyn i Dîm Llesiant Gogledd Ddwyrain Cymru rannu gwybodaeth ar eu rhan yn disgwyl caiff eu gwybodaeth bersonol ei rhannu ar yr e-fwletin Daily Digest. Mae modd ichi gyflwyno cais yn ysgrifenedig, yn electronig neu drwy ddatganiad ar lafar. Caiff yr wybodaeth ganlynol ei rhannu er mwyn egluro sut caiff yr wybodaeth ei ddefnyddio.

Mae e-fwletin Rhwydwaith Llesiant Gogledd Ddwyrain Cymru, Daily Digest, yn newyddlen e-bost caiff ei anfon at unrhyw un sy’n tanysgrifio i dderbyn yr e-fwletinau, ar http://eepurl.com/cRom-1.. Yn bennaf, mae hyn yn berthnasol i unigolion a mudiadau sy’n gweithio yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn Sir y Fflint a Wrecsam ond mae croeso i bawb ei dderbyn.

Diben yr e-fwletin ydy rhannu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r trydydd sector gyda mudiadau, gweithwyr, gwirfoddolwyr a chleientiaid yn gweithio yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn Sir y Fflint a Wrecsam. Ymysg yr wybodaeth byddwn yn ei rhannu bydd:

  • Cyfleoedd ariannu
  • Cyfleoedd ymgynghori
  • Digwyddiadau yn yr ardal
  • Gwybodaeth am fudiadau, prosiectau, gwasanaethau a gweithgareddau newydd

Os hoffech chi rannu gwybodaeth drwy’r e-fwletin i’n tanysgrifwyr, anfonwch y cynnwys at [email protected] neu [email protected].

Bydd ychydig o’r wybodaeth caiff ei rannu ar gael yn y parth cyhoeddus eisoes, o ffynonellau fel gwefannau, e-fwletinau, newyddlenni, papurau newydd neu hysbysfyrddau.

Eich gwybodaeth

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhannu fel y barnwch chi’n ddoeth: byddwn ond yn rhannu’r hynny rydych yn gofyn inni ei rannu.

Sut byddwn yn defnyddio’ch manylion

Yn ôl yr wybodaeth byddwch yn ei chyflwyno:

  • Bydd FLVC ac AVOW yn ei chadw drwy’r system MailChimp, sy’n prosesu a chadw data ar weinyddion yn yr UDA.
  • Caiff ei hanfon at ein tanysgrifwyr mewn e-bost.
  • Caiff ei arddangos yn ein harchif e-fwletinau
  • Bydd dolenni i’ch gwybodaeth o’n cyfrifon Facebook a Twitter.

Gall danysgrifwyr hefyd anfon yr e-fwletin ymlaen at gydweithwyr a chleientiaid.

Does gan MailChimp ddim perthynas uniongyrchol gyda’n tanysgrifwyr. Gwelwch Bolisi Preifatrwydd MailChimp i wybod mwy.

Bwrw golwg ar eich gwybodaeth a’i gywiro

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch chi, cysylltwch gyda [email protected]