Wythnos Gwerthfawrogi Gwirfoddolwyr Mehefin 2024

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yn rhedeg o ddydd Llun 3 i ddydd Sul 9 Mehefin

**Slotiau ychwanegol bellach wedi’u hychwanegu ar gyfer dydd Mercher 5 Mehefin**

Yn hytrach na chynnal digwyddiad yn yr Wyddgrug, fel yr oeddem wedi’i gynllunio’n wreiddiol, rydym nawr yn cynnig dod ag Wythnos Gwirfoddolwyr i chi!

I gydnabod y cyfraniad enfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i’n cymdeithas, hoffem ddod draw i’ch grŵp i gyflwyno Tystysgrif Diolch i’ch mudiad i ddangos gwerthfawrogiad o bopeth y mae eich gwirfoddolwyr yn ei wneud i wneud bywyd yn well i eraill.  Byddwn yn tynnu lluniau o’r dystysgrif yn cael ei chyflwyno a byddwn yn hyrwyddo’r hyn y mae eich gwirfoddolwyr yn ei wneud trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan, byddwn hefyd yn dod â chacen!  Mae croeso i chi wahodd eich gwirfoddolwyr hefyd.

Os hoffech i rywun o FLVC ymweld â chi (yn Sir y Fflint!) yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr (ond nid dydd Mercher 5 Mehefin), archebwch amser gan ddefnyddio’r ddolen hon https://form.jotform.com/241433951567360 a byddwn wedyn yn cysylltu â i chi gadarnhau’r trefniadau.  Os nad oes dyddiad neu amser addas i chi ddangos ar y ddolen, yna anfonwch e-bost atom, gan y byddwn yn gwneud ein gorau i gynnwys cymaint o ymweliadau ag y gallwn yr wythnos honno, os bydd amser yn caniatáu!  Mae gennym rai amseroedd gyda’r nos ac ar y penwythnos ar gael yn dda – e-bostiwch [email protected] gyda’ch dyddiad a’ch amser dewisol, gan roi manylion lleoliad yr ymweliad hefyd a byddwn yn cysylltu â chi.

Archebwch yn fuan, felly rydym yn gwybod faint o gacen i brynu!

Os hoffech ddangos tystysgrifau unigol ar gyfer eich gwirfoddolwyr, mae dolen i un y gallwch ei defnyddio yma