Gwobrau Elusennau Cymru 2024

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – derbyn enwebiadau nawr

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl! Mae’r gwobrau, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.

Dyma eich cyfle i ddathlu effaith drawsnewidiol elusennau, gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yng Nghymru. P’un a ydyn nhw’n enillydd neu yn y rownd derfynol, mae cael eu henwebu am wobr yn dangos mudiad neu unigolyn bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Y CATEGORÏAU

Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni:

  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
  • Codwr arian y flwyddyn
  • Gwobr Hyrwyddwr Amrywiaeth
  • Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg
  • Mudiad bach mwyaf dylanwadol
  • Gwobr iechyd a lles
  • Gwobr Mudiad y Flwyddyn

CYMRYD RHAN

Mae enwebu rhywun yn hawdd, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru, darllenwch y rheolau a llenwi’r ffurflen ar-lein.

Achubwch ar y cyfle hwn i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr, a rhoi’r cyfle iddo gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson hudol i’w chofio yn seremoni Gwobrau Elusennau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Medi 2024. I gael rhagor o wybodaeth ac i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i’n prif noddwr Y Brifysgol Agored Cymru a noddwyr y categorïau eraill.