Wythnos Elusennau Cymru 2026

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn digwydd rhwng 9 – 13 Chwefror 2026.

Bydd yn gyfle inni gydnabod a chlodfori’r gwaith anhygoel y mae sefydliadau elusennol lleol yn ei gyflawni i wella bywydau pobl eraill.

Mae elusennau’n llinell gymorth i’r bobl fwyaf bregus ond maen nhw hefyd yno i bobl yn ystod yr amseroedd da a drwg, gan gyflawni camau sy’n ymddangos yn rai bach ond sy’n gwneud gwahaniaeth aruthrol.

Mae digonedd o ffyrdd hawdd o gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru. Mae CGGC wedi cynhyrchu deunyddiau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’r wythnos.

Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r pecyn ymgyrchu, ymwelwch: https://wythnoselusennau.cymru/

Os oes angen cymorth ar eich grŵp neu eich sefydliad chi gydag unrhyw un o’r canlynol, cysylltwch gyda ni am wybodaeth, cefnogaeth a chyngor:

  • Rolau a chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr
  • Dod o hyd i Ymddiriedolwyr newydd
  • Eiddo
  • Arbed ynni / lleihau carbon
  • Yswiriant
  • Cyllid a chodi arian
  • Gwirfoddolwyr

Cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar ein gwefan yma: Canllawiau i Grwpiau, neu ffoniwch ni ar 01352 744027.