Partneriaethau Lleol Allweddol

Partneriaethau Lleol Allweddol

Working together

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB)

Rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ydy cydlynu ac ysgogi cydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er budd trigolion a chymunedau Sir y Fflint. Ymysg aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mae uwch swyddogion o’r holl sectorau hynny a chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfrifol dros gynhyrchu ac adolygu’r Cynllun Llesiant ar gyfer Sir y Fflint. Mae Prif Swyddog FLVC yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a hithau ydy’r prif gyswllt.  

 

Cytundeb y Sector Gwirfoddol

Mae’r Cytundeb yn bartneriaeth rhwng tri aelod, sef yr Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd a’r Sector Gwirfoddol. Nod y Cytundeb ydy sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yn gwbl ymwybodol o rôl y sector gwirfoddol a’u bod yn achub ar y cyfle i gydweithio. Mae’r Cytundeb hefyd yn goruchwylio gweithredu’r Cod Ariannu sydd â’r nod o sicrhau caiff grwpiau gwirfoddol eu trin yn deg gan arianwyr cyhoeddus. Mae’n cynnig fforwm i aelodau drafod materion a rhannu gwybodaeth o ddiddordeb cyffredin. Mae Prif Swyddog a Chadeirydd FLVC yn aelodau o’r Cytundeb ar y cyd ag aelodau eraill o’r sector gwirfoddol ac maen nhw’n cyfarfod gyda Phrif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor Sir ynghyd ag uwch reolwr o’r Bwrdd Iechyd. Prif Swyddog FLVC ydy’r prif gyswllt.

Fforymau a Rhwydweithiau FLVC

Mae FLVC yn gwasanaethu ac yn cynnull nifer o fforymau a rhwydweithiau sy’n cynnig cyfle i fudiadau gwirfoddol a chymunedol i rannu eu profiadau, syniadau a’u pryderon ac i gyfrannu tuag at ymgynghoriadau a phrosesau cynllunio gwasanaeth. Gallai cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol sy’n rhan o bartneriaethau a grwpiau cynllunio adrodd yn ôl i’r sector ehangach a gwrando ar eu sylwadau.

Rhwydwaith Llesiant

Mae croeso i grwpiau statudol a gwirfoddol, sy’n cynnig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn bennaf, ymuno â’r rhwydwaith hwn. Mae FLVC yn rhannu gwybodaeth yn wythnosol drwy e-grŵp, yn llunio newyddlen ac yn trefnu cyfarfodydd Rhwydwaith Llesiant pedair gwaith y flwyddyn. Y Rheolwr Llesiant ydy’r prif gyswllt ar gyfer y maes gwaith hwn.  

Rhwydwaith Rheolwyr Gwirfoddoli

Mae’r fforwm hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gydgefnogaeth a hyrwyddo arfer da. Mae’n gyfle i’r rheiny sy’n gyfrifol am recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr i ddod ynghyd a rhannu eu profiadau, syniadau a’u problemau. Gellir adnabod yr anghenion dysgu a chymorth ynghyd â thueddiadau newydd yn ymwneud â gwirfoddoli. Caiff adborth ei ddarparu o gyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol a gellir adnabod a mynegi pryderon, syniadau ac arfer da lleol mewn fforymau eraill. Rheolwr y Ganolfan Wirfoddoli ydy’r prif gyswllt ar gyfer y maes gwaith hwn.