Aelodaeth

Aelodaeth

Volunteering

Dewch yn aelod o CGLlSFf heddiw!

Mae Cyngor Gweithredu Lleol Sir y Fflint (FLVC) yma i gefnogi, hyrwyddo, datblygu a chynrychioli’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn Sir y Fflint a byddwn ni’n helpu lle bynnag y gallwn ni. Rydym ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail aelodaeth sy’n ein helpu ni sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda chi ac ar eich cyfer chi.

Yma yn FLVC rydym ni’n croesawu aelodau newydd i’r sefydliad i sicrhau bod ein gwaith wedi’i lunio gan y rheiny rydym ni yma i’w cynrychioli.

Buddion ymaelodi

  • Gwiriad iechyd rheolaidd ac am ddim i’ch sefydliad neu ymweliad Gwrando Arnoch Chi.
  • Hysbysebu eich swyddi gwag am ddim ar wefan FLVC.
  • Gostyngiadau ar hysbysebion swyddi gyda Charity Job Finder ar gael i aelodau yn unig.
  • Mynediad blaenoriaeth i Aelodau Llawn i archebu lleoedd ar ddigwyddiadau hyfforddi.
  • Mynediad i ddigwyddiadau rhwydwaith am ddim.
  • Rhoi blaenoriaeth i eitemau gan aelodau gael eu cynnwys ar e-fwletin FLVC gaiff ei ddosbarthu i gannoedd o bobl allweddol o’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus yn Sir y Fflint.
  • Gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori a grwpiau ffocws arbennig.
  • Cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion ar lefel leol a chenedlaethol.

Mae aelodaeth am ddim – bydd aelodau llawn hefyd yn gallu pleidleisio yn ein Cyfarfod Blynyddol

Aelodau llawn:

Mae’n rhaid i sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n ymgeisio am aelodaeth lawn hefyd ddarparu copi o’u dogfen lywodraethu bresennol (cyfansoddiad/rheolau).

(Mae aelodaeth unigol ac aelodaeth gyswllt hefyd ar gael)

Os hoffech chi ddod yn aelod lawrlwythwch ein polisi aelodaeth a datganiad preifatrwydd a llenwch ein ffurflen gais i ymaelodi ar-lein:

FLVC Membership Policy and Privacy Statement 26 27 Cymraeg

Cais Aelodaeth 2026/7