FLVC – Be ‘dan ni’n ei wneud ?
FLVC ydy’r mudiad ymbarél a chefnogi i dros 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint. Dyma’r gwasanaethau rydan ni’n eu cynnig drwy Gytundeb Isadeiledd Llywodraeth Cymru:
- Cynnig gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ynghylch materion llywodraethu a chyllid
- Datblygu a rhannu gwasanaethau gwirfoddoli effeithiol, gan gynnwys trefnu lleoliadau gwaith i wirfoddolwyr, cynnig hyfforddiant a rhannu ymarfer da ynghylch recriwtio, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr.
- Adnabod anghenion dysgu o fewn y Trydydd Sector a threfnu a chynnal hyfforddiant
- Adnabod materion cysylltiedig â’r ardal, rhannu barnau a phryderon gyda’r rheiny sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a dylanwadu ar gynlluniau yn yr ardal
- Datblygu partneriaethau gyda mudiadau gwirfoddol a statudol
- Gweithio ar y cyd gydag asiantaethau eraill er mwyn datblygu prosiectau i fodloni anghenion trigolion y gymuned.
FLVC – Sut allwn ni helpu?
Oes gennych chi amser rhydd? Hoffech chi wirfoddoli er mwyn helpu trigolion eich ardal?
Fe wnaiff staff ein Canolfan Wirfoddoli ddod o hyd i leoliad gwaith fydd yn bodloni eich anghenion. Mae gennym ni fanylion am gyfleoedd gwirfoddoli gyda dros 350 o fudiadau, gan gynnwys grwpiau sy’n ymwneud gyda’r canlynol:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Addysg a Hyfforddiant
- Dinasyddiaeth a Datblygu Cymunedol
- Y Celfyddydau, Diwylliant, Hanes neu Wyddoniaeth
- Chwaraeon a Hamdden
- Lles Anifeiliaid
- Gwarchod neu wella’r Amgylchedd
Cysylltwch gyda Debbie neu Claire yn ein Canolfan Wirfoddoli er mwyn trafod faint o amser allwch chi ei gynnig a pha faes yr hoffech chi wirfoddoli ynddi.

Mae mwy o wybodaeth am ein prosiectau a gwaith ar y cyd, yn ogystal â manylion am ein staff ichi fedru gweld pwy sy’n gyfrifol am beth a phwy ddylech chi gysylltu gyda nhw i fodloni’ch gofynion penodol chi: