Mae Corlan yn lle llawn bwrlwm ac yn ganolbwynt i’r trydydd sector yn Sir y Fflint. Mae swyddfeydd ar gael yma ynghyd â chyfleusterau hyfforddi a chyfarfod ac uned argraffu ar gyfer tenantiaid ac ymwelwyr. Mae Corlan yn gartref i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, y Ganolfan Wirfoddoli ei hun a’r mudiadau canlynol hefyd:
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru
Mae’r Gymdeithas yn cynnig amryw o wasanaethau i bobl fyddar, dall a byddar a phobl sydd wedi neu sydd yn colli eu clyw. Ymysg y gwasanaethau mae; cyngor a gwybodaeth, cefnogaeth gymunedol, gwasanaethau trosi a dehongli, dosbarthiadau darllen gwefusau, hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod, asesu offer, gwasanaethau addysg i blant byddar, gwasanaeth cyfeillio a gwasanaeth gwybodaeth teithiol. I wybod mwy cysylltwch â Ffôn: 01492 542235 Ffacs: 01492 542238 Minicom 01492 542236 E-bost: info@deafassociation.co.uk Gwefan: www.deafassociation.co.uk
Home-start Sir y Fflint
Rydym ni’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol di-ragfarn i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd magu plant. Mae ein gwirfoddolwyr yn helpu adeiladu hyder teulu a gallu’r gwahanol aelodau i ymdopi. Mae gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gyson. Ffôn: 01352 744060 Ebost:admin@home-startflintshire.org.uk Gwefan: www.home-startflintshire.org.uk
Menter Iaith Sir y Fflint
Rydym ni’n hyrwyddo ac yn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sir ac yn gweithio gyda mudiadau ac unigolion i ddatblygu prosiectau sy’n hyrwyddo dwyieithrwydd. Rydym ni’n annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg yn gymdeithasol drwy drefnu gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Ffôn: 01352 744040 Ebost gwybod@menteriaithsiryfflint.co.uk Gwefan: www.menteriaithsiryfflint.co.uk
Cymrhyd Rhan
Mae Cymrhyd Rhan yn fudiad sy’n helpu pobl i fyw bywyd gweithgar, annibynnol drwy gynnig pa bynnag gymorth sydd ei angen. Rydym ni’n credu fod pobl ar eu gorau pan fo’r gefnogaeth yn canolbwyntio arnyn nhw fel pobl. Oherwydd hyn mae ein gwasanaethau’n wahanol i bawb sy’n dod atom ni, gan fod anghenion pawb yn wahanol. I wybod mwy ffoniwch 01597 828050 neu ebostiwch info@cymryd-rhan.org
Canolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru
Mae Canolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i gynnig cyngor diduedd am ddim ar bob agwedd o ddefnydd ynni yn y cartref. Rydym ni’n gweithio hefyd gyda mudiadau cymunedol a busnesau bychain, yn rhoi cyflwyniadau ac yn cynnig hyfforddiant ynglŷn ag ynni. Rydym ni’n rhoi cyngor ar bethau fel defnyddio llai o ynni drwy wella’r adeilad neu newid arferion, dewisiadau gwresogi ac ynni adnewyddol a newid darparwr ynni. Rydym ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf o ran y grantiau sydd ar gael ac yn medru cyfeirio pobl yn uniongyrchol at gwmnïau gosod cydnabyddedig lleol.
Rydym ni’n rhoi cyngor ar ddyled tanwydd gan drafod gyda’r cyflenwyr ynni a chysylltu â’r Ombwdsmon ynni ar ran cleientiaid os oes angen.
Rydym ni’n cydweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu eu cynllun gwres fforddiadwy sy’n fodd o gael arian argyfwng i wneud trefniadau brys ar gyfer cartrefi bregus neu rai mewn angen yn Sir y Fflint.
Ffôn : 01352 876040 Llinell am ddim : 0800 954 0658 Gwefan : www.nweeac.org.uk Facebook : North Wales Energy Advice Centre Twitter : @NWenergyadvice Prif Gyswllt: Steve Woosey Ebost : steve@nweeac.org.uk
Deaf Access Cymru
Mae Deaf Access Cymru yn elusen sy’n cael ei harwain gan bobl F/fyddar neu drwm eu clyw ac sy’n rhoi prosiectau ar waith i rymuso pobl fyddar ledled Cymru. Rydym ni wedi gosod pedwar nod i ni’n hunain, sef:
- cefnogi grwpiau byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru i gryfhau a dod yn hunangynhaliol.
- sicrhau fod plant byddar yn medru cael gafael ar wybodaeth sy’n ymwneud â’r gymdeithas fyddar, iaith a hunaniaeth.
- sicrhau fod y gwaith o ddysgu Iaith Arwyddo Prydain yn cael ei fonitro a’i reoleiddio a bod arian rheolaidd ar gael.
- creu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru.
I wybod mwy ffoniwch 01352 744070
Nacro – Prosiect Doorstop Sir y Fflint
Mae prosiect Doorstop Sir y Fflint yn cael ei redeg gan Nacro er mwyn gweithio gyda phobl sy’n camddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Mae’r prosiect yn gynllun tai a chefnogaeth dros dro i bobl 18 oed a hŷn sy’n ddigartref ac sydd angen help i gael tenantiaeth er mwyn goresgyn eu problem camddefnyddio alcohol / sylweddau. Mae tenantiaethau dros dro ar gael efo Cymdeithas Dai Clwyd Alyn gyda Nacro yn cynnig cefnogaeth byw yn annibynnol. Mae’n rhaid siarad efo Nacro o leiaf ddwywaith y wythnos er mwyn cadw’r denantiaeth. Mae pobl yn cael eu cyfeirio drwy Lwybr Mynediad Sengl Sir y Fflint ac fel arfer o’r Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Cymunedol neu Arch Initiatives. Fodd bynnag, byddwn yn derbyn pobl wedi eu cyfeirio gan Ddewisiadau Tai Sir y Fflint, CAIS a’r Gwasanaethau Prawf os ydyn nhw’n gymwys. Rhaid i’r bobl sy’n dod ar y prosiect fod yn frwdfrydig ac ymrwymo i weithio gyda’r holl fudiadau. Dibenion y prosiect ydy cefnogi pobl i gadw eu tenantiaeth wrth iddyn nhw weithio drwy eu cynlluniau gweithredu a’u grymuso i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fyw’n annibynnol. Unwaith fod ganddyn nhw’r sgiliau hyn ac iddyn nhw gwblhau eu cynlluniau gweithredu byddwn yn eu helpu i gael cartref parhaol. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda Thîm Cefnogi Pobl Sir y Fflint, Cymdeithas Dai Clwyd Alyn, Arch Initiatives a’r Tîm Alcohol a Chyffuriau Cymunedol.
I wybod mwy ffoniwch 01352 744051 neu e-bostiwch Wendy.hayes@nacro.org.uk