Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Nod y rhwydwaith yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, yn awr ac at y dyfodol.
Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Rydym yn gweithio gyda dinasyddion, gwirfoddolwyr a grwpiau trydydd sector i ganfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac i weithredu yn unol â hynny. Mae ein gweithgareddau craidd i gryfhau’r trydydd sector a gwirfoddoli yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Galluogi a chefnogi
- Bod yn gatalydd
- Ymgysylltu a dylanwadu
- I gyflawni nod y rhwydwaith, rydym yn cydweithio â phartneriaid allweddol eraill yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus, byd busnes, ymchwil a chyllidwyr.
Mae gennym bedair colofn o weithgaredd sy’n llunio’r hyn rydym yn ei gynnig, dyma’r pedair colofn:
- Gwirfoddoli
- Llywodraethu da
- Cyllid cynaliadwy
- Ymgysylltu a dylanwadu
Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:
- Gwybodaeth a chyngor
- Dysgu a datblygu
- Rhwydweithio a chyfathrebu
- Siapio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
- Codi proffil y sector