Cymhorthfa Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Wythnos Profiad Prentisiaeth

Safon Ymddiried Lefel 1 Dyfarnwyd i FLVC

26th Annual General Meeting

Flintshire Volunteer Organisers Network Meeting

Hoffwch ein Tudalen Facebook

Cymhorthfa Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Ydych chi’n chwilio am arian ar gyfer gweithgaredd cymunedol? Ydych chi’n ystyried gwneud cais am Grant Cymunedol y Loteri Genedlaethol? Mae eu rhaglenni grant yn cynnwys:

• Arian i Bawb Rhaglen grantiau bach syml sy’n dyfarnu rhwng £300 a £20,000

• Grantiau Canolig Pawb a’i Le a – Grantiau mawr sy’n ceisio dod â phobl at ei gilydd i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig neu drefol.

Hoffech chi gael y cyfle i drafod eich syniadau gyda Swyddog Loteri cyn i chi wneud cais? Os felly, nawr yw eich cyfle.

Mae FLVC yn cynnal Cymhorthfa gyda Swyddog Loteri yn ein swyddfa yng Nghorlan, Yr Wyddgrug, ddydd Mercher 27 Mawrth 2024

Mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau ar gael i drafod ceisiadau grant posibl.

Archebu eich apwyntiad yma https://form.jotform.com/230462753410044

Mae’r Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol (NAW) wythnos nesaf! Rhwng Chwefror 5 i’r 11 bydd unigolion, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chymunedau yn tynnu sylw ac yn dathlu llwyddiannau prentisiaid ar draws Prydain ac yn annog pobl i ystyried sut y gall prentisiaethau helpu i ddarparu #SkillsForLife.

Dyma ein prentis Gweinyddu Busnes yn rhannu eu profiad.

“Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda’r FLVC ar ddechrau mis Ionawr fel Gweinyddwr Busnes ac rydw i’n mwynhau’r profiad yn fawr. Rydw i’n cael dysgu a chael profiadau gwahanol wrth i mi weithio sy’n gwella fy nealltwriaeth o’r swydd a’r gweithle. Mae fy nghydweithwyr yn garedig, gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Maent yn deall fy anghenion ac yn galonogol iawn.

Mae’r brentisiaeth yma yn gyfle gwych i mi. Mae’r gallu i ddysgu ac ennill cymhwyster fel hyn yn addas iawn i mi. Mae’r brentisiaeth yn helpu mi i adeiladu fy hyder a hunan-barch ac rydw i’n gwneud pethau yn barod nad oeddwn i’n meddwl y gallwn i. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn y bydd yn ei gynnig imi.”

www.apprenticeships.gov.uk.

Apprenticeships | Careers Wales (gov.wales)

Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint wedi sicrhau’r Safon Ddibynadwy Lefel 1 sy’n cydnabod y gwaith rhagorol mae’n ei wneud fel sefydliad trydydd sector yng Nghymru. 

Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint wedi derbyn Statws Elusen Ddibynadwy. Mae’r marc ansawdd yn cael ei wobrwyo ar ôl asesiad ar-lein ac annibynnol. Wedi’i gynnal gan “The Growth Company” (Weblink), mae’r safon yn cwmpasu meysydd o asesiad fel Llywodraethu, Cynllunio a gweithio gydag eraill. Yn ddiweddar, cyd-gynhaliodd y Prif Swyddog Ann Woods weminar genedlaethol ar safonau craidd y Wobr, gan rannu profiad CGLlSFf o’r broses asesu.

Roedd broses asesu’r Elusen Ddibynadwy yn darparu cynllun gwaith â ffocws i ni fel sefydliad, i edrych ar y meysydd i’w datblygu, tra hefyd yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar bethau rydym yn eu gwneud yn dda. Roedd ymddiriedolwyr a’r tîm cyfan o staff yn rhan o’r broses asesu, roedd hyn yn sicrhau bod pawb yn cymryd perchnogaeth o nod y sefydliad i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’r Trydydd Sector”. Ann Woods Prif Swyddog, CGLlSFf

“Am sefydliad weddol fach mae lefel uchel o ymgysylltu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae’r CGLlSFf yn gallu dylanwadu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynlluniau strategol a pholisi sy’n effeithio ar eu cymuned. Mae’r gallu i ‘dyrnu uwchlaw eu pwysau” yn destun i arweinyddiaeth y sefydliad a’r perthnasoedd a’r enw da y maen nhw wedi’u hadeiladu dros nifer o flynyddoedd. Hefyd, mae’n adlewyrchu’r gwerthoedd sy’n cael ei gefnogi gan yr arweinwyr, gan gynnwys osgoi cystadleuaeth gyda Sefydliadau Sector Gwirfoddol lleol. Canlyniadau’r bartneriaeth weithredol yn gweithio yw bod yr CGLlSFf yn cael ei wahodd i gyfrannu, cadeirio cymryd rhan weithredol mewn sawl rhwydwaith a fforwm dylanwadol. Mae’r gwaith o’r fath yma nid ond yn cael effaith gadarnhaol ar faterion lleol neu ranbarthol ond yn helpu hefyd i hysbysebu strategaeth, gweithgareddau ac adnoddau cenedlaethol.”  Dr. Sue Newberry

Os oes gan unrhyw sefydliad diddordeb yn y Wobr, y manylion cysylltu yw  [email protected] , neu rhowch alwad i’r CGLlSFf am sgwrs anffurfiol am yr hyn sy’n gysylltiedig 01352 744000,  [email protected]

On Thursday 14th Septeember 2023 voluntary and community groups from across Flintshire came to our Annual General Meeting, which included the Tom Jones Awards for young volunteers. Four young people received certificates recognising their voluntary work and the impact it has made on local communities. The overall award winner, as decided by a panel of local young people, was Tom, who volunteers with Giddo’s Gift 🏆 Our congratulations to all those who volunteer their time to help others.
If you would like to nominate a young person aged 25 or under for next year’s award, please contact us, [email protected], tel: 01352 744000.

Mae Cyfarfod Nesaf Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir y Fflint yn cael ei gynnal yn

Neuadd Seiri Rhyddion, Penarlâg

Dydd Mercher 28 Chwefror 2024 9.30yb tan 12.30yp

os hoffech fynychu os gwelwch yn dda  Archebwch Yma

 

 

Cadwch y newyddion diweddaraf a mwy a dilynwch ni ar Facebook, Twitter ac Instagram

   FLVC Facebook

       FLVC Twitter

        FLVC Instagram