Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn gweithio i sicrhau trydydd sector ffyniannus a chynaliadwy lle mae mudiadau yn sicrhau ac yn cynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i oroesi, ffynnu a pharhau’n berthnasol yn y dyfodol.
Porth cyllid
Creu porth digidol chwiliadwy sydd ar gael i fudiadau ddod o hyd i gyfleoedd cyllido byw
Gwybodaeth, arwyddbostio, arweiniad a chymorth datblygu
Darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth datblygu i gynyddu gallu mudiadau i sicrhau a chynyddu incwm, i’ch cysylltu chi â gwybodaeth a chyngor arbenigol, yn seiliedig ar anghenion dynodedig
Adnabod, hybu ac uwchraddio arfer da ac arloesol o bob cwr o Gymru
Hwyluso rhwydweithio a rhannu deallusrwydd i godi ymwybyddiaeth o arferion effeithiol ac arloesol.
Gwasanaethau ymarferol
Darparu mynediad at fuddion sydd wedi’u trefnu’n lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol a chyfeirio at ffynonellau o gymorth ymarferol
Dysgu a datblygu
Cyflwyno rhaglen ddysgu a datblygu i ehangu ar allu mudiadau i reoli adnoddau’n effeithiol.
Galluogi cydweithredu
Creu perthnasau agos gyda chyllidwyr a hybu gweithio ar y cyd.