Mae ein Swyddog Cyllid yma i helpu a chefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn Sir y Fflint. Gall ein gwasanaeth helpu grwpiau sydd angen ychydig o gannoedd o bunnoedd ar gyfer prosiect bach lleol, neu filoedd o bunnoedd tuag at brosiect cyfalaf mawr. Gadewch inni eich helpu i symud trwy’r ddrysfa gyllid mor hawdd ac mor effeithiol ag sydd bosibl yn ogystal â rhannu profiadau a gwybodaeth am gyllid.
Rydym ni’n gallu darparu llawer iawn o wahanol adnoddau gwybodaeth a chyngor ariannol er mwyn eich helpu i wella eich siawns o fod yn llwyddiannus.
Mae ein gwasanaeth cynghori ariannol am ddim ac ar gael i bob grŵp yn Sir y Fflint.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth