Mae hwn yn rhwydwaith cefnogol i’r rheiny sy’n gyfrifol am recriwtio, cadw, datblygu a chydlynu gwirfoddolwyr. Mae’n gyfle i drefnwyr rannu ymarfer gorau a dysgu gan ei gilydd.
Os hoffech chi gyflwyno mudiad neu brosiect newydd, neu rannu newyddion ynghylch mudiadau neu brosiectau sydd eisoes yn bodoli yn ystod cyfarfod rhwydwaith, gofynnwn yn garedig ichi ddatgan diddordeb drwy anfon e-bost at info@flvc.org.uk, neu ffonio 01352 744000.
Dyma nodau’r rhwydwaith:
- Arddangos eich gwaith
- Manteisio ar gymorth i oresgyn rhwystr
- Rhannu ymarfer gorau
- Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
- Manteisio ar gefnogaeth ar gyfer digwyddiad
- Dysgu mwy am sector gwirfoddol Sir y Fflint
Dydd Llun 10fed Mai 2021
Cofrestrwch yma i dderbyn dolen mynediad cyfarfod Zoom.