Mae gwirfoddoli’n disgrifio rhywbeth y mae pobl yn dewis ei wneud yn eu hamser sbâr, heb gael eu talu, sydd o fudd i bobl eraill neu sy’n cyfrannu at wasanaethau neu les y gymuned.
Ond mae’n cynnig mwy i chi na dim ond cyfle i helpu. Os byddwch yn gwirfoddoli, cewch gyfle i gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd, datblygu diddordebau newydd a bod yn rhan o’r Gymuned.
Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth mawr o weithgareddau a phrosiectau, o fod yn gyfaill defnyddiol i waith cadwraeth a chyfrannu’n fawr at fywydau dyddiol pobl eraill.
Treuliau allan o boced
Os byddwch yn dewis gwirfoddoli dylai’r grŵp neu’r mudiad rydych yn gwirfoddoli iddynt dalu’n ôl unrhyw gostau rydych wedi’u talu allan o’ch poced eich hun, er enghraifft costau cludiant a chostau perthnasol eraill.
Gwirfoddoli a budd-daliadau
Gallwch wirfoddoli hyd yn oed os ydych yn derbyn budd-daliadau. Mae rheolau ynglŷn â’r nifer o oriau y cewch wirfoddoli felly siaradwch gyda Swyddog Prosiect am hyn neu ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli pan fyddwch yn derbyn budd-daliadau.
Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau gwirfoddoli ar y tudalennau yma: