Gydag aildrefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a sefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) i Ogledd Cymru gyfan, mae’r nifer o grwpiau cynllunio rhanbarthol yn cynyddu. Mae’r chwe Chyngor Gwirfoddol yng Ngogledd Cymru’n cydweithio i gynrychioli’r sector ar nifer o’r grwpiau hyn. Y prif gyswllt ar gyfer y maes yma o waith yw’r Hyrwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Y Bwrdd Iechyd
Mae gan y corff yma’r cyfrifoldeb pennaf am gynllunio ac adolygu’r gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae nifer o aelodau anweithredol sy’n eistedd ar y Bwrdd ac mae un o’r aelodau hyn yn gyfrifol am adrodd yn ôl i’r sector gwirfoddol ac mae un arall wedi’i ddynodi’n aelod cymunedol.
Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (SRG)
Mae SRG yn grŵp cynghori sy’n adrodd i’r Bwrdd Iechyd, Mae chwe aelod o’r sector gwirfoddol ar yr SRG ac maent yn eistedd ochr yn ochr â chynrychiolwyr o sectorau eraill, yn cynnwys yr Awdurdodau Lleol.
Grwpiau Rhaglenni Clinigol (CPGs)
Mae’r grwpiau cynllunio hyn wedi’u harwain gan glinigwyr ac maent yn ymdrin â holl feysydd y gwasanaethau allweddol ar y Bwrdd Iechyd. Maent yn cynnwys aelodau o sectorau eraill gan gynnwys y sector gwirfoddol. O’r 11 CPG mae gan y dilynol aelodau o’r sector gwirfoddol:
- Plant a Phobl Ifainc
- Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu
- Meddyginiaeth Sylfaenol, Cymunedol ac Arbenigol
- Therapïau a Chefnogaeth Glinigol
- Gwasanaethau Merched
- Canser, Meddyginiaeth Lliniarol a Haematoleg Glinigol
Grwpiau Ardal
Mae pedwar ar ddeg o Grwpiau Ardal i’w cael ledled Gogledd Cymru, y mwyafrif wedi’u cadeirio gan feddygon teulu ac yn ymdrin ag ardaloedd gyda phoblogaethau rhwng 30,000 a 50,000. Maent yn cynnwys cymysgedd o gynrychiolwyr o wahanol sectorau. Eu nod yw datblygu, cydlynu ac adolygu gwasanaethau sydd wedi’u seilio yn y gymuned. Mae tri Grŵp Ardal yn Sir y Fflint ar gyfer yr ardaloedd dilynol
- Yr Wyddgrug, Bwcle a Chaergwrle
- Glannau Dyfrdwy
- Treffynnon