Enwebiadau bellach ar agor – Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2027!
‘Da chi’n adnabod unigolyn neu grŵp cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymuned leol nhw?
Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2027, sy’n dathlu cyfraniadau eithriadol gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau ar draws siroedd Dinbych, Conwy, y Fflint a Wrecsam.
Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn cydnabod ymroddiad, ymrwymiad ac effaith gadarnhaol pobl sy’n rhoi eu hamser nhw i helpu pobl eraill a chryfhau eu cymunedau nhw.
Helpwch ni adnabod y rhai sy’n gwneud gwahaniaeth!
Dyddiad cau: 5pm, Dydd Sul 6 Rhagfyr 2026
Sut i enwebu: Cwblhewch y ffurflen enwebu yma a’i dychwelyd at [email protected].